Caneuon Heddwch
Caneuon Heddwch
SKU:SCD2710
Bydd y cyfnod 2014 i 2018 yn gyfnod o gofio. Cofio‘r gyflafan waedlyd a elwir Y Rhyfel Mawr, pan gollodd miliynau o bobl eu bywydau, y rhan fwyaf ohonyn nhw yn ddynion ifanc, ym mlodau eu llencyndod. Diau y bydd y cofio i rai yn ymylu ar ddathlu, dathlu dewrder a gwrhydri militaraidd a buddugoliaeth dros y gelyn. Ond i’r lliaws mawr, cyfnod o gofio perthnasau a gollwyd fydd hwn, ac i eraill cofio rhai a safodd yn erbyn rhyfel, ac a ddioddefodd wawd a sen, a gwaeth, fel ‘conshis’. Ac yn sgil y cofio a’r dathlu, yr hiraeth a’r dagrau, bydd y cwestiwn yn codi dro ar ôl tro. ‘Pam, pam, ac i beth?’.
Pobl ifanc iawn oedd y milwyr a gollwyd yn y rhyfel, ac ifanc oedd y rhai a wrthododd ymladd o gydwybod, ac y mae’r rhan fwyaf o’r caneuon yn y casgliad hwn, yn eiriau ac yn alawon, yn waith pobl ifanc. Pobl ifanc na fu’n rhaid iddyn nhw wynebu rhyfel, na wynebu’r dewis o ymuno â’r lluoedd arfog neu beidio, ond pobl ifanc sydd eto’n gorfod byw mewn byd lle mae rhyfel yn realiti dyddiol i rywun o hyd. A phobl ifanc sy’n nabod rhywun, neu sy’n perthyn i rywun, sydd neu a fu yn cerdded strydoedd Belffast, neu Fallujah neu Helmand, a gwn yn eu llaw.
Caneuon heddwch ydyn nhw i gyd, ond nid caneuon sy’n ceisio dianc rhag realaeth rhyfel, ond caneuon sy’n gweld y byd drwy lygaid a phrofiad y gwr neu’r ferch ifanc ar faes y gad, a’r fam a’r tad a’r plant gartref yn eu gwewyr. Cryfder llawer o’r caneuon hyn yw eu bod yn gweld rhyfel nid fel ffilm epig gyda miloedd o gast, ond fel profiad yr unigolyn – yr unigolyn.
Mae cân gref, ddi-addurn Gai Toms (Mim Twm Llai) i Ellis Humphrey Evans yn cyfleu’r drasiedi gystal â’r un; does dim sentiment nac arwriaeth yn y ffosydd, dim ond gwaed a mwd. Ond o’r hylltra erchyll hwnnw, cyfyd prydferthwch rhyfeddol englynion Williams Parry, Offeren Heddwch Karl Jenkins, a Thangnefeddwyr Waldo Williams ac Eric Jones. Un o’r caneuon mwyaf pwerus yw cân Eric Bogle Green Fields of France, a glywir yma mewn dwy fersiwn, y naill gan Leah Owen mewn addasiad dyfeisgar gan Eifion Lloyd Jones sy’n cydblethu teimladau Bogle gyda hanes Hedd Wyn a dau englyn Williams Parry, a’r llall gan Plethyn mewn addasiad gwahanol, ond yr un mor effeithiol, gan Myrddin ap Dafydd. Ac hefyd mae yma ganeuon i’n herio ninnau. Yden ni am barhau i ganu’n hapus ddiniwed am ymru fel ‘gwlad yr adar mân’, neu yden ni, fel Mererid Hopwood yng nghân Tecwyn Ifan, am agor ein llygaid i sylweddoli fod yna ‘adar’ llawer mwy peryglus yn nythu yn ein mysg? Dafydd Iwan, 2014 sy’n ysgrifennu at yr awdurdodau yng nghân Ffrangeg Boris Vian a gyfieithiwyd gan Huw Jones, ewyrth Walter Meic Stevens a fu farw ar y môr, y milwr clwyfedig a welodd ei gyfaill yn chwilfriw yn Irac a chael bod y byd wedi anghofio amdano, y llanc ifanc a laddwyd yng Ngogledd Iwerddon y canodd Huw Chiswell mor angerddol amdano, a’r milwr enwocaf o’r cyfan a laddwyd cyn iddo fedru eistedd yng nghadair ddu Yr Arwr.
- Englynion Coffa Hedd Wyn - CANTORION COLIN JONES
- Gwaed ar eu Dwylo - PLETHYN
- Cân Walter - MEIC STEVENS
- Y Tangnefeddwyr - CF1
- Mistar Duw - EDWARD H. DAFIS
- Gwelais Feysydd Rhyfel - HEATHER JONES
- Sgrifen ar y Tywod - GERAINT LOVGREEN
- Cân yr Adar Mân - TECWYN IFAN
- Byd o Heddwch - CÔR GODRE'R ARAN
- Cân y Milwr - DAFYDD IWAN
- A Glywi Di? - GWENAN GIBBARD
- Y Ffoadur - HUW JONES
- Ellis Humphrey Evans - MIM TWM LLAI
- Rhywbeth o'i Le - HUW CHISWELL
- Y Milwr - HOGIA'R WYDDFA
- Dim yn Ein Henw Ni - TWM MORYS
- Amser Maith yn Ôl - TUDUR HUWS JONES
- Yr Arwr - LEAH OWEN
- Benedictus - SERENDIPITY