Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Various Artists

Caneuon Gwladgarol

Caneuon Gwladgarol

Pris rheolaidd £7.99 GBP
Pris rheolaidd Pris gwerthu £7.99 GBP
Gwerthu Gwerthu allan
Trethi wedi'u cynnwys.
Year

SKU:SCD2699

Bu peth holi yn ddiweddar pam fod yna lai o ganu gwleidyddol, yn enwedig o ganeuon gwladgarol, y dyddiau hyn nag a fu. Ond o gywain drwy archif Sain, nid dyna’r argraff a gawn. Mae traddodiad hir o ganu gwladgarol ym myd cerdd dant, gan fod barddoniaeth yn y cywair hwnnw yn benthyg ei hun yn barod i ganu gyda’r tannau, a cheir rhai enghreifftiau disglair yma. Ond hyd yn oed yn y byd ‘pop’, mae’r nodyn gwladgarol yn parhau i gael ei daro’n rheolaidd, a rhai o’n cantorion roc gorau ni wedi creu sawl campwaith o ganeuon am Gymru sydd yn fwy crafog na thraddodiad y beirdd mwy confensiynol.

Bydd chwaer gyfrol y casgliad hwn – sef casgliad o ganeuon ‘protest’ – yn cynnwys mwy o’r caneuon cyfoes hyn, ond fe’u cynrychiolir yma gan Geraint Jarman, Bob Delyn a Tecwyn Ifan. Mae Ethiopia Newydd Jarman yn ehangu cynfas y weledigaeth genedlaethol, a’r unigryw Pethau bychain Dewi Sant Twm Morys yn cyflwyno’r nodyn cellweirus hwnnw sydd ei angen ar bob mudiad gwerth chweil!

Mae pwyslais y rhan fwyaf o’r caneuon hyn – er yn amrywio llawer mewn arddull – ar enaid y genedl a’i diwylliant fel tae, ond trewir y nodyn herfeiddiol, hyderus yn aml hefyd, fel yng nghân ysgubol Meinir Lloyd Cân y Celt a chân Gareth Glyn ac Eleri Cwyfan Heriwn, wynebwn y wawr. Yn naturiol, mae’r iaith Gymraeg yn ganolog, a cheir cyfunaid diddorol yma gyda dehongliad grymus Côr Seiriol o berl Merêd a Harri Webb Colli Iaith, a geiriau Eifion Wyn Eu hiaith a gadwant yn cael eu canu i’r tannau gan y chwiorydd Carys a Beti Puw. Mae dwy o’r caneuon yn seiliedig ar yr araith enwog o Buchedd Garmon, sef emyn Lewis Valentine yn nehongliad anfarwol John Eifion a Chôr Penyberth, gosodiad cerdd dant Côr Canna, a Gwinllan a Roddwyd Dafydd Iwan.

Ychydig yn llai adnabyddus yw geiriau heriol R.J. Derfel Mynnwch y ddaear yn ôl, geiriau a gafodd eu hadleisio rai degawdau yn ddiweddarach gan yr ymgyrchydd-gyfansoddwr Woody Guthrie yn ei This land is your land, this land is my land. O hudoliaeth hyfryd Ysbryd y Gael i’r anthemau cynhyrfus, ac o farddoniaeth atgofus Tecwyn Ifan i gynghanedd ysgytwol T. Gwynn Jones, mae amrywiaeth y casgliad hwn yn sicr o gydio ynoch, i ddathlu’r ffaith fod llawer o’r geiriau hyn bellach yn dechrau cael eu gwireddu yn y Gymru gyfoes. 

  1. Dros Gymru'n Gwlad - CÔR PENYBERTH A JOHN EIFION
  2. Ymadawiad Arthur - CÔR PANTYCELYN
  3. Pethau Bychain Dewi Sant - BOB DELYN
  4. Y Dref Wen - TECWYN IFAN
  5. Mynnwch y Ddaear yn Ôl - TREFOR EDWARDS
  6. Buchedd Garmon - CANNA
  7. Gwinllan a Roddwyd - DAFYDD IWAN
  8. Caru Cymru - CÔR GODRE'R ARAN
  9. O Gymru - JANE EVANS A DILIAU DYFRDWY
  10. Safwn yn y Bwlch - HOGIA'R WYDDFA
  11. Glyndŵr - HEATHER JONES
  12. Cenedl - CÔR MERCHED Y GARTH
  13. Eu Hiaith a Gadwant - BETI A CARYS PUW
  14. Colli Iaith - CÔR SEIRIOL
  15. Cân y Celt - CÔR TELYNNAU TYWI
  16. Heriwn, Wynebwn y Wawr - CÔR GODRE’R ARAN
  17. Ysbryd y Gael - CÔR MEIBION LLANGWM/ MAIRI MACINNES
  18. Ethiopia Newydd - GERAINT JARMAN
  19. Yr Anthem Geltaidd - CÔR MAELGWN
Gweld y manylion llawn