Caneuon Gorau Hogia'r Wyddfa - Cyfrol 2
Caneuon Gorau Hogia'r Wyddfa - Cyfrol 2
SKU:Sain 1149
Bryd hynny, Arwel fyddai'n mynd â'i gitâr i'w ganlyn i roi cefndir offerynnol i'r canu, ond fe benderfynwyd yn fuan y dylai 'o fod â'i ddwylo'n rhydd i sefyll gyda'r ddau arall, ac i fedru meithrin ei ddawn fel tipyn o glown mewn ambell i sgetsh - rhan bwysig o berfformiadau'r hogia' ers y cychwyn. Felly, dyma droi at fachgen ifanc arall o'r ardal, Vivian Williams, un yr oedd pawb yn y cylch wedi clywed amdano, yn cymryd pob cyfle gai 'o i roi tonc ar ei gitâr. Sioe ddigon doniol oedd yr un gyntaf i Vivs ei gwneud gyda'r hogia', fodd bynnag. Roedd o wedi torri'i fys y diwrnod cynt, a hwnnw mewn "bandage" go drwchus. Mae'n debyg fod yr ymgais i ffitio i menw i'r patrwm newydd am y tro cyntaf, gyda llaw fel ffoadur o Ysbyty Môn ac Arfon, wedi creu ambell i nodyn anffodus, a dweud y lleiaf. Buan y daeth y sŵn newydd i'w le fodd bynnag, ac ar ôl nifer cynyddol o gyngherddau a nosweithiau llawen - ar draws Cymru gyfan erbyn hyn - a mwy o enwogrwydd trwy gyfrwng y bocs bach, roedd hi' n bryd torri'r record gyntaf, a'r pedwar yma a recordiodd "Caru Cymru" - y gyntaf i ddwyn yr enw "Hogia'r Wyddfa", 'nôl yn 1968.
Yr un flwyddyn, dyma ddod o hyd i Dic Morris, o Gaernarfon, hwnnw hefyd ag enw am fod yn dipyn o athrylith ar y piano, yn medru codi alaw a rhoi cyfeiliant iddi y tro cyntaf un. Ac wrth gwrs, dyna greu'r swn arbennig hwnnw y mae pob Cymro a Chymraes erbyn hyn yn ei adnabod fel un Hogia'r Wyddfa.
Side 1
1.Titw Tomos Las
2.Gwyn
3.Y ferch ar y cei yn Rio
4.Pont yr Abar
5.Olwen
6.Caru Cymru
Side 2
1.Tecel
2.Draw mae'r llais yn galw
3.Chwarel Dinorwig
4.Eifionndd
5.Cofio
1979