Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Dewi Pws

Caneuon Dewi Pws

Caneuon Dewi Pws

Pris rheolaidd £12.98 GBP
Pris rheolaidd Pris gwerthu £12.98 GBP
Gwerthu Gwerthu allan
Trethi wedi'u cynnwys.

SKU:SAIN SCD2868

Casgliad newydd o 50 o ganeuon Dewi Pws yn cynnwys traciau gan Tebot Piws, Edward H Dafis, Huw Jones, Heather Jones, Mochyn 'Apus, Linda Griffiths, Mynediad am Ddim a Dewi.

Dewi Pws yr actor, y canwr, y digrifwr a'r tynnwr coes, ond cofiwn hefyd am Dewi fel cyfansoddwr toreithiog ac un a gyfrannodd gymaint o ganeuon cofiadwy i'r traddodiad cerddorol Cymreig. Dyma gasgliad sy'n dangos rhychwant eang ei ddoniau cyfansoddi, a'r caneuon rheiny'n cael eu perfformio gan Dewi ei hun, y grwpiau y bu'n aelod ohonynt a sawl artist blaenllaw arall.

O ddyddiau'r 70au cynnar hyd ei farwolaeth yn 2024 bu Dewi'n cyfansoddi. Ar y sîn gerddorol, daeth Dewi i'r amlwg gyntaf fel aelod o'r grŵp chwedlonol Tebot Piws ac mae'r caneuon a gyfansoddodd i'r pedwar ohonynt, sef Alun 'Sbardun' Huws, Stan Morgan Jones, Emyr Huws Jones (yr 'aelod achlysurol'!) a Dewi, bron fel caneuon gwerin ar dafodau'r Cymry bellach - pwy all feddwl am Dewi heb glywed alawon caneuon fel 'Lleucu Llwyd' a 'Nwy yn y Nen'. Roedd y caneuon llawn hiwmor, tafod yn y boch, yn amlwg iawn ganddo yn y cyfnod yma hefyd a chynulleidfaoedd wrth eu bodd yn clywed am Wili John a Godro'r Fuwch ac mae atgofion melys iawn gan nifer am floeddio canu 'Mae Rhywun Wedi Dwyn fy Nhrwyn' mewn sawl noson wyllt a hwyliog yn y cyfnod pan oedd canu poblogaidd Cymraeg yn newid ac yn datblygu ar raddfa na welwyd erioed o'r blaen. Roedd Dewi a'i ganeuon yng nghanol y bwrlwm hwn.

 

Roedd perfformiad Edward H Dafis o gan Dewi 'Cân y Stiwdants' yn noson Tafodau Tân ym Mhafiliwn Corwen yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Rhuthun yn 1973 yn drobwynt yn hanes canu pop Cymraeg ac yn berfformiad a ysgwydodd seiliau yr hen noson lawen i'w chraidd. Dyma weld cerddorion ifanc Cymru yn bloeddio canu yn Gymraeg i gyfeiliant gitarau trydan, swnllyd gan godi'r gynulleidfa ar eu traed. Daeth sawl cân gofiadwy arall gan Dewi ar gyfer Edward H Dafis a bu hefyd yn cyd-gyfansoddi gyda'i gyfeillion oes yn y grŵp, Hefin Elis, Cleif Harpwood, Charli Britton a John Griffiths. I Dewi mae'r diolch am glasuron fel 'Mynydd Gelli Wastad', 'Neb ar Ôl', 'Ti', 'Hi Yw' a 'Gwrandewch', a sawl un o'r caneuon hyn yn cadarnhau yn sicr bod Dewi hefyd yn fardd, a'r gallu ganddo i grynhoi teimladau a dyheadau a'n swyno â'i arddull delynegol ar un llaw a'i arddull bryfoclyd a'i ffraethineb plentynaidd ac apelgar ar y llaw arall.


Daeth cyfnod arall o arbrofi yn gerddorol ac o ran cyfansoddi yn 1983 pan ffurfiodd Dewi y grŵp roc trwm, theatrig, Mochyn 'Apus gyda Dyfed Thomas, Dafydd Pierce, Tich Gwilym a Dai Watkins. Bu'n cyd-gyfansoddi caneuon y grŵp gyda Dyfed a Dafydd ac er na fu cymaint â hynny o berfformio byw arnynt mae'r recordiadau eto yn dangos gwreiddioldeb Dewi ar ei orau a themau'r caneuon yn amrywio o'r gân serch i Rhiannon i ganeuon mwy gwleidyddol yn herio ac yn procio.

Ar gyfer record a ryddhawyd gan fudiad Adfer y cyfansoddodd a recordiodd Dewi y gân 'Dŵr, Halen a Thân' - cân gydag elfennau dwys yn cyffwrdd â themau marwolaeth. Clywir yr un naws a theimlad yn 'Ysbrydion', sy'n cael ei chanu ar y casgliad gan un o gyfeillion Dewi, Linda Griffiths. Cawn sensitifrwydd a chynhesrwydd hyfryd yn ei ganeuon teyrnged i Sbardun, Tich Gwilym a Meredydd Evans ac yn wrthgyferbyniad llwyr cawn gymeriad bywiog a chellweirus Dewi ar ei orau mewn caneuon fel 'Os' ac 'M.O.M Ff.G'. Dwy o'r caneuon mwyaf diweddar iddo eu cyfansoddi a'u recordio oedd caneuon i hybu ymgyrch Yes Cymru, ac yn rhain cawn ei holl sêl a'i frwdfrydedd diflino dros Gymru a'i dyfodol.
Dros gyfnod o dros 50 mlynedd a thrwy 50 o ganeuon oddi ar labeli Sain, Labelabel, Fflach, Cerddoriaeth Cyfryngol Cymreig a Recordiau Adfer, dyma gyfle i dalu teyrnged i Dewi Pws y cyfansoddwr, ac i fwynhau ac i ddathlu ei ddoniau cerddorol a'i allu arbennig i ddweud stori ar gân.

CD 1 

1 Marwnad Llon Wili John TEBOT PIWS

 2 Dan Ddŵr Oer y Llyn TEBOT PIWS
 3 Blaenau Ffestiniog TEBOT PIWS
 4 Lleucu Llwyd TEBOT PIWS
 5 Godro’r Fuwch TEBOT PIWS
 6 Mae Rhywun Wedi Dwyn fy Nhrwyn TEBOT PIWS
 7 Nwy yn y Nen TEBOT PIWS
 8 Ie Ie ’Na Fe TEBOT PIWS
 9 Dyn Ni Ddim yn Mynd i Birmingham TEBOT PIWS
 10 Dilyn Colomen TEBOT PIWS
 11 Mae Gen i Gariad TEBOT PIWS
 12 Ble’r Aeth yr Haul HUW JONES GYDA HEATHER JONES
 13 Cân y Stiwdants EDWARD H. DAFIS
 14 Gwrandewch EDWARD H. DAFIS
 15 Ti EDWARD H. DAFIS
 16 Pishyn EDWARD H. DAFIS
 17 Rosi EDWARD H. DAFIS
 18 Calan Gaea’ EDWARD H. DAFIS

CD 2
 1 Cymer Ddŵr, Halen a Thân DEWI PWS
 2 Lisa Pant Ddu EDWARD H. DAFIS
 3 Hi Yw EDWARD H. DAFIS
 4 Mynydd Gelli Wastad EDWARD H. DAFIS
 5 Neb ar Ôl EDWARD H
 6 Cân Charli gan Pws EDWARD H. DAFIS
 7 Braf EDWARD H. DAFIS
 8 VC10 EDWARD H. DAFIS
 9 Môr yn Marw EDWARD H. DAFIS
 10 Dwed y Gwir EDWARD H. DAFIS
 11 Miranda EDWARD H. DAFIS
 12 Rhiannon MOCHYN ’APUS
 13 Mochyn ’Apus MOCHYN ’APUS
 14 Mae Rhywun yn Galw MOCHYN ’APUS
 15 Ger y Ffin MOCHYN ’APUS
 16 Mae Lleucu Wedi Marw LINDA GRIFFITHS

CD 3
 1 Cwmtydu TEBOT PIWS
 2 M.O.M.Ff.G. TEBOT PIWS
 3 Ysbrydion LINDA GRIFFTHS
 4 Amser Maith yn Ôl MYNEDIAD AM DDIM
 5 Cân y Gwanwyn DEWI PWS
 6 Cwm Tresaith DEWI PWS
 7 Nadolig Ddoe a Heddiw DEWI PWS
 8 Os DEWI PWS
 9 Hei Hei, Ding Ding DEWI PWS
 10 Aliens DEWI PWS
 11 Pengloge DEWI PWS
 12 Tich DEWI PWS
 13 Cân Mered LINDA GRIFFITHS / SORELA
 14 Cân Sbardun DEWI PWS / LINDA GRIFFITHS / AR LOG
 15 Yes, Yes, Yes Cymru DEWI PWS
 16 Nos Da, Rule Britannia DEWI PWS

Gweld y manylion llawn