Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Dafydd Iwan

Cana dy Gân

Cana dy Gân

Pris arferol £19.99 GBP
Pris arferol Pris gwerthu £19.99 GBP
Sêl Gwerthu allan
Treth wedi'i chynnwys.

SKU:SCD2675

I gofnodi 50 mlynedd o berfformio mae Sain yn falch o gyhoeddi bocs set Dafydd Iwan sy’n cynnwys 12 CD – 219 o ganeuon.

Bu Dafydd yn recordio’i ganeuon ers canol y 60au, a thrwyddynt cawn ddarlun o Gymru a’r byd yn ystod yr hanner canrif a newidiodd hanes ein cenedl a’n hiaith. Cawn flas o’r hwyl a’r direidi, y gobeithion a’r siomedigaethau, y gorfoledd a’r hiraeth, a chysondeb cenedlaetholwr a gadwodd yn driw i’w weledigaeth, drwy sawl tro ar fyd, a sawl awel groes.

Ar y 12 disg yma ceir bron y cyfan o’i ganeuon, ar wahân i’r 67 a recordiwyd gan Edward ac yntau yn y gyfres Cwm-Rhyd-y-Rhosyn i blant, ond bydd Dafydd ac Edward yn lansio llyfr Cwm Rhyd y Rhosyn yn yr Eisteddfod eleni.

219 o draciau i gyd, wedi eu recordio rhwng 1966 a 2010, mewn sawl stiwdio, i gyfeiliant amryfal offerynwyr, ond trwy’r cyfan y mae’r un neges angerddol yn rhedeg – neges y Cymro sy’n dyheu am weld ei wlad yn dod yn aelod cyflawn o deulu cenhedloedd y byd.

 

CD1: CANEUON TELDISC (1966 – 1967) (gydag Edward)

Wrth feddwl am fy Nghymru, Wyt ti’n cofio?, Bryniau Bro Afallon, Meddwl amdanat ti, Mae’n wlad i mi, Ji geffyl bach, Crwydro, Mae’r esgid fach yn gwasgu,  Rwy’n gweld y dydd,

Beth yw’r haf imi?, Hyn sydd yn ofid im, Stôl i ddau, Clyw fy nghri, Mae geneth fach yng Nghymru, Paid â chwarae efo’m serch, Tyrd yn ddi-oed

CD2: CANEUON TELDISC (1967 – 1969) (*gydag Edward)

Cân yr ysgol, Chwarae â ’nghalon, Pan glywaf gân y clychau, Trwy’r drysni a’r anialwch, Daw, fe ddaw yr awr, Siôn a Siân, Cân y ddinas, Cân y medd, Tri mis o ddathlu mawr, Cân y glöwr, Sam, A chofiwn ei eni Ef, Mair paid ag wylo mwy *, Seinier cyrn a chaner clych *, Carlo *, Y dyn pwysig, Croeso chwedeg-nain, Gad fi’n llonydd

CD3: SAIN CYNNAR – SENGLAU ac EP (1969 – 1980)

Myn Duw, mi a wn y daw, Mari fawr Tre-lech, Ai am fod haul yn machlud?, Peintio’r byd yn wyrdd, Mae ’na le yn tŷ ni, Yma mae ’nghalon, Mr. Tomos, os gwelwch yn dda, Pam fod eira yn wyn?, Weli di Gymru?, Cân y Western Mail, I’r gad, Gorau Cymro, Cymro oddi cartref, Yno yr wylodd efe, Tywysog Tangnefedd, Mae hiraeth yn fy nghalon, Y steddfod beiling, Mae’r llencyn yn y jêl, Magi Thatcher, Sul y Blodau

CD4: YMA MAE ’NGHÂN :

SAIN 1002H /C509 (1972) + MAE’R DARNAU YN DISGYN I’W LLE: SAIN 1045D/C545 (1976)

Wrth feddwl am fy Nghymru, Daw fe ddaw yr awr yn ôl imi, Mae geneth fach yng Nghymru,

Croeso chwedeg-nain, Cân y medd, Ji geffyl bach, Hyn sydd yn ofid im, Cân y glöwr, Cân yr ysgol, Gad fi’n llonydd, Rwy’n gweld y dydd, Dos f’anwylyd, Mae’r darnau yn disgyn i’w lle, 

Dewch i lan y môr, Siarad â ti a mi, Mae rhywun yn y carchar, Baled yr eneth eithafol, Merch y mynydd, Mynd yn ôl, Dim ond un gân

CD5: BOD YN RHYDD: SAIN 1150M/C750N (1979)

+ DAFYDD IWAN AR DÂN : SAIN 1217M (1981)         

Weithiau bydd y fflam, Cân Victor Jara, Teg oedd yr awel, Mari Malŵ, Bod yn rhydd, Baled y Welsh Not, Peidiwch gofyn imi ddangos fy ochr, Penillion i Gilmeri , Mae’n disgwyl, Hwyr brynhawn, A gwn fod popeth yn iawn, Ac fe ganon ni, Magi Thatcher, Mae rhywun yn y carchar, Y dref a gerais i cyd, Pam fod eira yn wyn, Am na ches i wâdd i’r briodas, Cân serch i awyren ryfel, Y pedwar cae, Yr hawl i fyw mewn hedd

CD6: RHWNG HWYL A THAITH: SAIN 1252M/C852N (1982

+ YMA O HYD: SAIN 1275M/C875N (1983) gydag Ar Log

Dail y teim, Paratoi at ryfel, Y blewyn gwyn, Y pedwar cae, Dechrau’r dyfodol, Ciosg Talysarn, Y dref a gerais i cyd, Lleucu Llwyd, Cerddwn ymlaen, Yn groeso iddo Ef (oddi ar ‘Ar Noson fel Heno’ SAIN C603N), Y wên na phyla amser, Tra bo hedydd, Ffidil yn y to, Cân i Wiliam, Cân y medd, Y chwe chant a naw, Yma o hyd

CD7: GWINLLAN A RODDWYD: SAIN 1385M/C985N (1986)

+ DAL I GREDU: SAIN C453/SCD 4053 (1990)

Draw dros y don, Cân i D.J., Mae’r Saesneg yn esensial, Yr hen, hen hiraeth, Cân Lewis Valentine, Gweddi dros Gymru, Hawl i fyw, Os na fydd ‘na Gymru yfory, Cwyngan y Sais, Mi glywaf y llais, Gwinllan a roddwyd, Draw, draw ymhell, Fel yna mae hi wedi bod erioed, Cân Angharad, Oscar Romero, Esgair Llyn, Cân Mandela, Dal i gredu, Cân i Helen, Cân yr Aborijini

CD8: CANEUON GWERIN : SAIN C2062/ SCD 2062 (1993)                                    

Moliannwn, Ar lan y môr, Y ferch o blwy’ Penderyn, Titrwm tatrwm, Fe drawodd yn fy meddwl, Mynwent eglwys, Harbwr Corc, Fflat Huw Puw, Rownd yr horn, Y deryn pur, Ffarwel fo i dre’ Porthmadog, Si hei lwli, Bugeilio’r gwenith gwyn, Paid â deud, Trwy’r drysni a’r anialwch, Ffarwel i blwy’ Llangywer, Mae prydferthwch ail i Eden, Dacw ’nghariad i lawr yn y berllan, Cyn delwyf i Gymru’n ôl, Beth yw’r haf i mi?, Santiana (oddi ar ‘Bod yn Rhydd’: SAIN 1150M/C750N), Mari fach (recordiad byw o’r Gegin, Cricieth, 1975)

CD9: CÂN CELT: SAIN SCD 2097 (1995)

I ble’r aeth haul dy chwerthin? (Cân Celt), Symudwch y bobol (Mae pres yn y fforest),

Daw fe ddaw yr awr, Cân y glöwr, Peintio’r byd yn wyrdd, Pam fod eira’n wyn?, Dyn oedd yr Iesu, Gad fi’n llonydd, Tywysog Tangnefedd, Shili-ga-bŵd, Daeth y llwch yn ôl, Dal i ganu yma o hyd, Y Garreg Wen , Cana gân fy Nghymru, Rhywbryd fel nawr, Torri’r cylch o drais, Awel yr Wylfa, Doctor Alan, Cân y fam, Yr Anthem Geltaidd

CD10: GOREUON DI A’R BAND YN FYW : SAIN SCD 2239 (2000) + 2296 (2002)

Bod yn rhydd, Y wên na phyla amser, Ai am fod haul yn machlud, Esgair Llyn, Oscar Romero, Wrth feddwl am fy Nghymru, Cân yr ysgol, Weithiau bydd y fflam, Yr hen, hen hiraeth, Magi Thatcher, Cân yr Aborijini, Cân Angharad, Carlo, Cwyngan y Sais, Mi glywaf y llais, Dos f'anwylyd, Ffarwel i blwy Llangywer, Rwy’n gweld y dydd, Dal i ganu ‘Yma o hyd’, Gweddi dros Gymru

CD11: MAN GWYN: SAIN SCD 2576 (2007)                                                    

Ar y Mimosa, Cân Michael D. Jones, Tyred f’anwylyd, Porth Madryn, Y rheilffordd gyntaf, Tua Cwm Hyfryd, Cân y ddwy chwarel, Ynys Ellis, Y Cymro a’r aur, Hollywood, Baled Joe Hill, Merch y breuddwydion, Hwiangerdd Corsica, Yr ynys, Daeth y dyn (I Gwynfor Evans)       

CD12: DOS I GANU : SAIN SCD 2600 (2009 - 2011)                                                

Dos i ganu, Tyrd, aros am funud, Mae gen i f’egwyddorion, Mae Cymru’n mynnu byw, Mwstasho y Gaucho, Cana dy gân, Cân y milwr, Cysura fi, Ambell i gân, Angor, Amser maith yn ôl, Heddiw yw’n dyfodol, Gofyn am y cyfan

Year
Gweld y manylion llawn