Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Trio

Cân y Celt

Cân y Celt

Pris arferol £9.99 GBP
Pris arferol Pris gwerthu £9.99 GBP
Sêl Gwerthu allan
Treth wedi'i chynnwys.

SKU:SCD2741

Fel yr albwm cyntaf, mae`r albwm hon yn cynnwys llawer o amrywiaeth o ran cynnwys ac arddull. Mae arni ganeuon gwreiddiol gan gyfansoddwyr ac awduron o Gymru, caneuon Eidalaidd a chaneuon crefyddol – a`r cyfan wedi eu trefnu i dri llais gan Annette Bryn Parri.

Bu llawer o holi am ymddangosiad yr ail albwm yma, a theimlwn yn sicr y gwnaiff roi cymaint o fwynhad i`r gwrandawyr ag y gwnaeth yr albwm gyntaf.

‘Yn y dyddiau digidol hyn, a’r Wȇ fyd-eang yn rheoli cymaint ar ein bywydau, mae rhai artistiaid yn dal i gydio yn eu cynulleidfa i’r fath raddau fel bod rhaid i’r gynulleidfa honno gael Cryno-Ddisgiau o’r perfformiadau yn eu dwylo. Ac y mae TRIO yn perthyn i’r garfan hon o artistiaid. Wrth wrando arnyn nhw’n fyw, mae plethiad y tri llais yn cynhyrfu ac yn gwefreiddio, a phleser pur yw cael cyflwyno albwm arall a fydd yn caniatau ichi brofi’r wefr honno eich hunain.
Wrth ddymuno llwyddiant parhaol i’r hogia a’u mentor amryddawn Annette, carwn ddiolch iddyn nhw am brofi fod doniau cerddorol bro’r llechi yn dal i ddisgleirio gystal ag erioed. Mi wn y bydd croeso brwd, a chlustiau astud, yn disgwyl ‘Cȃn y Celt’.

DAFYDD IWAN

 

  1.  Cân y Celt
  2.  Rho i Mi Nerth
  3.  The One
  4.  Lluniau Ddoe
  5.  Mae dy Serch yn Fwy Na'r Cyfan
  6.  If You Need Somebody Tonight
  7.  Dal y Freuddwyd
  8.  Mair a Wyddet Ti
  9.  Mia per sempre
  10.  Gwanwyn yn ei Gwên
  11.  February Song
  12.  Because we Believe
Year
Gweld y manylion llawn