Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Caffi Sali Mali

Caffi Sali Mali

Caffi Sali Mali

Pris rheolaidd £4.99 GBP
Pris rheolaidd Pris gwerthu £4.99 GBP
Gwerthu Gwerthu allan
Trethi wedi'u cynnwys.

SKU:DVD010

Dyma’r 7 bennod fwyaf difyr a doniol o'r gyfres deledu boblogaidd i blant.

Straeon –

Croeso i'r caffi - Mae Sali Mali'n agor ei chaffi newydd. Tybed pwy fydd ei hymwelydd cyntaf?

Costio'n Ddrud - "Mae mynd â char i'r garej yn fusnes drud iawn!" medd y Pry Bach Tew.

Troi'n Fanana - Does bosib! Mae Jac y Jwc wedi roi'n fanana!

Y Llithr Sgio - Jac y Jwc a Nicw Nacw ar lithr sgio gyda'i gilydd? O na!

Y Barbeciw - Daw pawb draw i Gaffi Sali Mali i fwynhau barbeciw yn yr ardd. Ond does dim mwg heb dân - a dim tân heb ddynion tân!

Dysgu Reidio Beic - Mae Nicw Nacw wedi cael beic newydd gan ei Yncl Jac y Jwc, ac mae'n gallu mynd fel milgi. Ond yna daw tro Yncl Jac i ddysgu reidio beic.

Y Gêm Bêl-droed - Mae Jac y Jwc wedi addo mynd â Nicw Nacw i weld gêm bêl-droed.

Hyd - tua 105 munud.

Iaith - Cymraeg.

Lliw - Lliw llawn.

Tystysgrif - E

Gweld y manylion llawn