Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Elin Manahan Thomas

Byd y Soprano

Byd y Soprano

Pris arferol £9.99 GBP
Pris arferol Pris gwerthu £9.99 GBP
Sêl Gwerthu allan
Treth wedi'i chynnwys.

SKU:SCD2651

A hithau o Abertawe’n wreiddiol, mae Elin Manahan Thomas erbyn heddiw’n un o’r sopranos ifanc mwyaf dawnus trwy Brydain. Cafodd brofiad anhygoel wrth gymryd rhan yn y gyfres ‘Sopranos’ ar S4C yn ddiweddar, lle cafodd y cyfle i deithio ledled Ewrop, i ymgyfarwyddo â’r hanesion tu ôl i’r caneuon poblogaidd, ac i ddod i wybod mwy am y cymeriadau lliwgar o fewn y byd opera, oratorio a chân. Albwm yw hon sy’n cynnwys casgliad o ganeuon a berfformiwyd gan Elin fel rhan o’r gyfres honno.

“Daw’r gair ‘soprano’ o’r Eidaleg sopra sef ‘uwchben’. Rydym ni fel sopranos yn canu yn uwch na phawb arall, gan mai ni fel arfer sy’n cario’r alaw, ac O! am alawon hyfryd ydyn nhw hefyd! Mae hwn yn gasgliad o’r rhai o’r goreuon yn y byd clasurol, yr hen ar newydd ac o wledydd gwahanol.”; meddai Elin.

Ceir unawdwyr gwadd ar yr albwm hefyd sef Charlotte Mobbs a Robert Davies, ac yn gyfeiliant iddyn nhw mae Sinfonia Dinas Llundain, Christopher Glynn ar y piano, Alistair Ross ar yr organ, Ensemble De Morgannwg a cherddorfa ‘The Sixteen’.

Yn ogystal â’r ffaith ei bod yn brysur iawn fel cantores, mae galw mawr ar Elin fel cyflwynwraig a darlledwraig hefyd. Mae wedi cyflwyno ar BBC 1 (‘Songs of Praise’), BBC 4 (Proms BBC yn Neuadd Albert, Proms in the Park, Canwr y Byd Caerdydd), BBC 2 Cymru (Gwyl y Faenol) ac ar S4C. Mae wedi’i henwebu ddwywaith i dderbyn Bafta Cymreig yn y categori ‘Enw newydd’ a ‘Cyflwynydd gorau’. Mae hefyd wedi cynnal rhaglen ar gerddoriaeth glasurol yn wythnosol ar Radio Cymru, yn ogystal â chyflwyno cyngherddau byw yn rheolaidd ar Radio 3.

Mae gan Elin ystod eang o gryno ddisgiau i’w henw erbyn hyn, ac ymysg yr uchafbwyntiau yn ei gyrfa recordio yw; cyrraedd rhif 2 gyda’i halbwm gyntaf (‘Eternal Light’ gyda Orchestra of the Age of Enlightment), ei chryno-ddisg ar label Signum yn cael ei henwi fel ‘CD of the Week’ ar Classic FM (Patrick Hawes’s ‘Song of Songs’), a’i recordiad o Stabat Mater gan Pergolesi gyda Florilegium yn cael ei enw fel ‘Choice of the Month’ yng nghylchgrawn BBC Music yn 2010. Hefyd, Elin yw’r gantores gyntaf erioed i recordio Alles mit Gott gan Bach, awdl benblwydd a ysgrifenwyd yn 1713 a’i darganfod yn 2005. Cafodd ei chanmoliaeth gyntaf am ei recordiad o ‘Pie Jesu’ allan o Requiem gan Rutter a gyhoeddwyd ar label Naxos, a cafodd ei chanmol fel unawdydd yn St Matthew’s Passion yn y Thomaskirche yn Leipzig dan arweiniad Sir John Eliot Gardiner.

  1. Dell'aura al Sussurrar (Dorilla In Tempe)
  2. Je Veux Vivre Dans le Rêve (Roméo et Juliette)
  3. Sous le Dôme Épais (Lakme)
  4. Du Ring an Meinem Finger (Fraunemliebe Und Leben)
  5. Morgen (Vier Lieder)
  6. La ci Darem la Mano (Don Giovanni)
  7. Nun Beut Die Flur Das Frische Grün (Die Schöpfung)
  8. An Die Musik
  9. Ave Maria (Ellens Gesang iii)
  10. Mein Herr Marquis (Die Fledermaus)
  11. Y Gylfinir (Caneuon Y Tri Aderyn)
  12. Gweddi Y Pechadur
Year
Gweld y manylion llawn