Bwncath
Bwncath III
Bwncath III
SKU:Sain SCD2854
Methu â llwytho argaeledd casglu
Mae Recordiau Sain yn hynod falch o gael cyhoeddi bod albym newydd, hirddisgwyliedig y band Bwncath, 'Bwncath III', yn cael ei ryddhau ar y 7fed o Fai. Mae'n albym yn llawn o glasuron newydd gan un o'r bandiau mwyaf prysur a phoblogaidd yng Nghymru. Mae stamp gerddorol unigryw Bwncath yn gwbl amlwg ar y caneuon a'r arddull yn parhau'n driw i sŵn nodweddiadol y band gan gyffroi a swyno fel erioed, ond yma hefyd mae aeddfedrwydd newydd gan gyffwrdd ag amrywiol themau - cariad, breuder bywyd, cyfeillgarwch, unigrwydd a gobaith, a'r naws yn symud yn gelfydd drwy hiraeth ac ansicrwydd i gyffro a mwynhad - y cyfan yn ddrych i fywydau cymaint ohonom.
Bu'r bum mlynedd ddwythaf yn gyfnod eithriadol o brysur i'r band gyda galwadau i ganu yn barhaus. O fewn pythefnos i ryddhau eu hail albym, 'Bwncath II', yn 2020, cafwyd dros 100,000 o ffrydiau ar Spotify. Derbyniodd y band gydnabyddiaeth tu hwnt i Gymru wrth i'r albwm gyrraedd rhif 27 yn siartiau 'Official Folk Albums Charts UK' gan aros yn y 40 uchaf am bron i flwyddyn gyfan, ymysg enwau fel The Staves a Laura Marling. Bellach, mae catalog cerddoriaeth Bwncath wedi derbyn cyfanswm o dros 8 miliwn o ffrydiau ar Spotify. Bydd caneuon 'Bwncath III', fel eu holl ganeuon eraill, yn sicr ar dafodau'r genedl yn fuan iawn...
Gyda haf prysur iawn o'u blaenau unwaith eto, bydd cyfle i gynulleidfaoedd ar hyd a lled Cymru a thu hwnt i gael clywed y caneuon newydd, caneuon fydd yn sicr o gydio unwaith eto yn nychymyg a chalonnau'r genedl.
Rhannu
