Bwncath
Bwncath
SKU:RASALCD042
Enillydd tlws coffa Alun Sbardun Huws y llynedd, Elidyr Glyn, yn cyhoeddi albym cyntaf ei fand Bwncath.
Mae Bwncath yn fand o ardal Caernarfon sydd yn canu caneuon gwreiddiol a gyfansoddwyd gan Elidyr Glyn a Meredydd Wyn Humphreys. Bu i’r ddau ohonynt gyd-gyfansoddi am flynyddoedd, yn bennaf dros gyfnod o fyw gyda’i gilydd ym Mangor tra’n fyfyrwyr i’r Brifysgol. Wedi graddio daeth yr awydd i berfformio rhai o’u caneuon, ac yna yn dilyn hynny'r awydd i recordio drwy gymorth ac arweiniad cerddorion profiadol eraill.
Mae Bwncath wedi bod yn perfformio ers mis Mawrth 2015 ar nifer o lwyfannau dros Gymru, yn cynnwys mewn gwyliau, tafarndai, caffis, ysgolion, orielau ac ati. Yn ystod y cyfnod o ddechrau perfformio yn gyhoeddus daeth amryw o artistiaid eraill i fewnbynnu eu dylanwad cerddorol i sain ac arddull y band, ac mae’n debyg mai Robin Llwyd a Gwilym Bowen Rhys a ddylanwadodd fwya’, y ddau ohonynt o Fethel ger Caernarfon. O ganlyniad i hyn bu i’r rhan fwyaf o berfformiadau Bwncath gyda band llawn gynnwys y pedwar aelod a enwir yn flaenorol. Mae’r band wedi cynnwys aelodau eraill megis Arron Hughes a Carwyn Jones, y ddau ohonynt hefyd o Fethel, mewn nifer o berfformiadau.
Mae rhai o ganeuon Bwncath eisoes wedi eu chwarae ar raglenni Radio Cymru, ac y mae dau ohonynt gynt wedi eu dewis fel ‘Trac yr Wythnos’, sef ‘Barti Ddu’ yn 2015 ac ‘Yr Ofn’ yn 2017. Yn ogystal â hyn, ‘Curiad y Dydd’ oedd cân fuddugol y gystadleuaeth ‘Tlws Coffa Alun Sbardun Huws’ yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2016, sef y flwyddyn gyntaf i’r gystadleuaeth hon gael ei chynnal.
- Barti Ddu,
- Curiad y dydd
- Yr ofn,
- Melyn
- Pen y mynydd
- Lawr y ffordd
- Cân lon
- Allwedd
- Y dderwen ddu
- Caeau
- Coedwig ar dân