Blodwen (Finyl ddwbwl)
Blodwen (Finyl ddwbwl)
SKU:Sain 1138
Yr oedd 1878 yn garreg filltir bwysig iawn yn hanes cerddoriaeth yng Nghymru, oherwydd yn ystod y flwyddyn honno y cyhoeddwyd ac y perfformiwyd Blodwen, yr opera Gymraeg gyntaf. Pennaeth ar Adran Gerdd Coleg Aberystwyth oedd Joseph Parry, y cyfansoddwr, ar y pryd, ac yr oedd wedi teimlo ers tro 'nod angen opera nyg ngherddoriaeth Cymru', ac y dylai yntau arbrofi mewn maes a anwybyddwyd yn llwyr gan ei ragflaenwyr. Llwyddodd i berswadio Richard Davies (Mynyddog) i lunio liberto yn portreadu bywyd yng Nghymru yn y bedwaredd ganrif ar ddeg, a chyn ei bod wedi gweld golau dydd fe roddwyd i'r opera 'newydd' dair act gyhoeddusrwydd rhagorol ym mhapurau newydd a chylchgronau'r genedl.
Cafodd yr opera ei pherfformio am y tro cyntaf yn Aberystwyth ar Fai 21, 1878, gyda'r cyfansoddwr ei hun yn arwain. 'Perfformiad cyngerdd' oedd hwnnw yn ôl pob tebyg, er bod y cymeriadau i gyd wedi cael eu dilladu menw gwisgoedd oedd yn gweddu i drigolion Cymru yn y bedwaredd ganrif ar ddeg, ac ar ddechrau'r perfformiad rhybuddiod y cyfansoddwr y gynulleidfa na fyddai'r un o'r cantorion yn actio fel y cyfryw. Mae'n amlwg y gwyddai Joseph Parry cystal â neb am ragfarn gref ei gyfnod yn erbyn actio, a'i fod yn sylweddoli nad oedd wiw iddo dramgwyddo'r Piwritaniaid yn Aberystwyth os oedd am i'w opera gyntaf daro deuddeg!.
Yn dilyn y perfformaid cyntaf yn Aberystwyth aethpwyd â Blodwen ar daith yn siroedd Morgannwg a Mynwy, a chafodd hefyd ei lwyfannu gan y 'Welsh Representative Choir' ym Mryste ac yn Alexander Palace yn Llundain. Trefnwyd trenau rhad i gludo'r cwmni a'i perfformio o Aberdâr i Lundain, a chyhoeddwyd yn y wasg bod croeso i'r sawl a fynnai ymuno â'r cantorion ar y daith hanesyddol honno.
Mi fyddai'n wir dweud (fel yr awgrymodd rhai o awduron y genedl yn niwedd y ganrif o'r blaen) bod Blodwen wedi cychwyn cyfnod newydd yn hanes cerddoriaeth y genedl. Yn hytrach, bu'n gyfrwng i'n hargyhoeddi bod yna le i opera yn ein gweithgarwch cerddorol, onid hefyd yn gyfrwng i'n hatgoffa bod Cymru yn y ganrif o'r blaen yn un o'r ychydig genhedloedd yn Ewrop nad oedd iddi ei thraddodiad operatic ei hun.
Ochr 1
1. 'Rwy'n dod o'r Wyddfa uchel bell
2. Syr Hywel o'r Wyddfa
3.Rhowch fanerau ar y muriau
4.Boed heddwch i'n harglwyddes
5.Ysbrydion y derion a'r da
6.Mae marchog mendefigaidd wrth y porth
7, o gartref yr Eryr y daethom eindau
8. Un blodeuglwm o bleserau
9.Ynwyneb y nef
10.Cyfloeddiwn cydganwn!
Ochr 2
1.Y Ser ar fynwes y ffurfafen
2.Cydlawenhawn am funud awr
3.Yn enw Harri Ddewr o Loegr bell
4.Mae'r haul yn codi dros y bryn
5.Mae seren ofnadwy yn dyfod pob hwyr
6.Tra byddo yr heliwr yn hela
7.Ychydig a ŵyr ef
8.Hywel, be ti'n geisio yma?
9.Cenad fy arglwyddes oddi wrth dwysog Cymru
10.Mae Cymru'n barod ar y ŵys
Ochr 3
1.Mae swn rhyfel yn y gwynt
2.Ffarwel, Arthur!
3.Cenad o faes y gwaed, fy arglwyddess
4.Mae Harri a'i fyddinoedd yn dod fel y don
5.Mae 'mywyd bron â rhedeg
6.Arthur annwyl, paid â'm gadael
7.Taenwn
Ochr 4
1. Mae ffawd yn cefnu ar ein byddin gref
2.Fy Nhad a fu farw'n carchar
3.Breuddwydiais i neithiwr ddiwethaf
4.Mae'r Seren wedi machlud
5.Bu galed iawn yn brwydro
6.Chwibanu rhyddion odlau
7.Fy mlodwen, f'anwylyd, fy mhopeth
8.Cenwch y clychau/gwae, gwae ein glwad
9.Ai dyma gell Syr Hywel ddu?
10.Moliannwn, Moliannwn y nefoedd!
1978