Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Triawd y Coleg

Goreuon Triawd y Coleg

Goreuon Triawd y Coleg

Pris arferol £9.99 GBP
Pris arferol Pris gwerthu £9.99 GBP
Sêl Gwerthu allan
Treth wedi'i chynnwys.

SKU:SCD2568

Casgliad o oreuon a wnaeth y Triawd – Meredydd Evans; Cledwyn Jones; Robin Williams - yn brif ffefrynnau canu ysgafn Cymru yng nghyfnod “Noson Lawen” y BBC, ac sy’n dal i apelio heddiw gymaint ag erioed.

Yn 1936, o dan arweiniad Sam Jones, sefydlwyd y BBC ym Mangor ac yna ar ôl y rhyfel gyda diwedd y bomio a’r peryglon dechreuodd pobl ddyheu am ddifyrwch eto. Canlyniad hyn oedd mwy o ddarllediadu Cymraeg o’r BBC ym Mangor gyda nifer o gyfrannwyr lleol, a daeth adloniant yn rhan o arlwy y BBC gyda dyfodiad rhaglen Noson Lawen. Roedd Meredydd Evans yn y coleg ar y pryd ac yn aelod o Triawd y Coleg a bob mis cafwyd cyfle ganddynt i berfformio ar raglan Noson Lawen, gan agor a chau bob sioe. Cyfuniad oedd y rhaglen o bobl leol ac amaturiaid o’r coleg, yn unigolion ac yn bartion a chorau gan amlaf. Ar ôl cyfnod llwyd y rhyfel fe gydiodd Noson Lawen yn nychymyg y Cymry a daeth gwên yn ôl i wynebau teuluoedd Cymru benbaladr.

Cafodd Triawd y Coleg ddylanwad pellgyrhaeddol ar ddiwylliant Cymru ar y pryd yn ogystal â chreu adloniant ysgafn i greu difyrrwch, roedd caneuon y Triawd yn cynnig fwy na hynny mewn difri.

Traciau -

1. Triawd y Buarth

2. Mari Fach

3. Y Tandem

4. Bet Troed-y-Rhiw

5. Car Bach Del

6. Cornet F'ewyrth John

7. Beic Peni-Ffardding fy Nhaid

8. Nelw'r Felin Wen

9. Cwm Rhyd-y-Corcyn

10. Pictiwrs Bach y Borth

11. Y Garafan Fechan

12. Teganau

13. Y Tri Chanwr

14. Mary Jane

15. Dawel Nos

16. Carol y Blwch

Gweld y manylion llawn