Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Plethyn

Goreuon Plethyn

Goreuon Plethyn

Pris arferol £9.99 GBP
Pris arferol Pris gwerthu £9.99 GBP
Sêl Gwerthu allan
Treth wedi'i chynnwys.

SKU:SCD2375

Canu soniarus, naturiol, di-ymdrech sy’n parchu geiriau, alaw a chynghanedd gerddorol. Mae Plethyn yn cyfleu yr hyn sydd orau yn y traddodiad canu gwerin Cymraeg, sef canu soniarus, naturiol, di-ymdrech sy’n parchu geiriau, alaw a chynghanedd gerddorol. A thrwy’r cyfan, y gallu i ddweud stori’n ddifyr ac yn glir, i gyfleu’r dwys heb fod yn sentimental a’r digri heb fod yn rhy wamal.

O’r funud y clywodd Dafydd Iwan nhw, fe wyddai y byddai Plethyn yn rhoi bri newydd ar ganu gwerin Cymru, yn rhoi bywyd newydd i sawl hen gân, ac yn dod a thinc y canu plygain i ganol ein diwylliant cyfoes. Fe wnaethant hynny a mwy, gan roi inni gyfoeth o ganeuon newydd hefyd, a daethant yn un o brif gyfryngau cerddorol y bardd Myrddin ap Dafydd, fel y dengys y casgliad hwn. O’r diwedd felly, cawn fwynhau goreuon Plethyn ar un Gryno-Ddisg, gyda diolch i Tudur Morgan am ail-gynhyrchu 11 ohonynt ar gyfer y casgliad hwn.

Traciau -

1. Y gwylliaid

2. Pentre Llanfihangel

3. Golau tan gwmwl

4. Hon yw fy Olwen i

5. Cân Melangell

6. Mil harddach wyt

7. Y ceidwad

8. Gwaed ar eu dwylo

9. Tân yn Llÿn

10. O’r pridd i’r pridd

11. La Rochelle

12. Cwm y coed

13. Cysga di fy mhlentyn tlws

14  Hiraeth yn Iwerddon

15. Yn dewach na dwr

16. Castell y Bere

17. Seidir ddoe

Gweld y manylion llawn