Benedictus
Benedictus
SKU:SCD2500
Gwledd o ddeuawdau na fu ei fath ar record yn Gymraeg o’r blaen gan ddau o leisiau gorau’r byd gyda Catrin Finch, Celticana, Annette Bryn Parri, Rhys Parry & Ensemble Cymru.
Dim ond unwaith mewn oes – os hynny – y daw talent gyflawn fel Bryn Terfel i’r golwg:y lais, y bersonoliaeth, y persenoldeb llwyfan, y crebwyll cerddorol, y ddawn i ddehongl geiriau, a hynny mewn sawl iaith a sawl arddull; nid yw’n llai na rhyfeddod. Ac nid hynny yw’r unig destun rhyfeddod, ond y faith ein bod fel gwlad fechan yn gallu cynhyrchu sawl canwr a sawl cantores o safon fyd-eang sy’n cyfoesi â Bryn Terfel. Yn fwy na hynny, fod rhai o’r cantorion hyn o’r un “filltir sgwar” â Bryn ei Hun!
Ganwyd Bryn Terfel a Rhys Meirion o fewn ychydig filltiroedd i’w gilydd, ac y mae eu tadau yn dal i ganu yn yr un côr, Meibion Dwyfor. Mae’r ddau wedi ennill rhai o brif wobrau’r Eisteddfod Genedlaethol, a’r ddau erbyn hyn yn enwau cyfarwydd ar sawl cyfandir.
Ond ein braint ni fydd cael mwynhau gwledd o ddeawdau Cymraeg, un yn Lladin a dwy yn Saesneg, gyda dau o leisiau gorau’r byd yn asio i greu celfyddyd o’r radd uchaf. Y clasurol a’r gwerinol, yr hen a’r newyd, o lwyfan y sioe ac o bulpud y capel bach, mae’r caneuon i gyd yn troi’n greadigaethau newydd dan ddwylo Bryn a Rhys. Ac yn gyfeiliant iddyn nhw fe glywn athrylith Catrin Finch, Annette Bryn Parri, Rhys Wyn Parry, a seiniau caboledig llinynnau Celticana ac Ensemble Cymru.
- Benedictus
- Y Darlun
- Y Ddau Forwr
- Grist Bendigedig
- Perhaps Love
- Y Ddau Frython
- Ainsberg
- Luned
- Dal Ein Tir
- Pan Fo'r Nos Yn Hir
- Eli Jenkins' Prayer
- Y Ddau Wladgarwr
- Anwylyn Mair
- Yr Arglwydd Yw Fy Mugail