Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Delyth Jenkins

Ar y Ffin ~ Lawrlwytho yn unig (PDF)

Ar y Ffin ~ Lawrlwytho yn unig (PDF)

Pris rheolaidd €10,50 EUR
Pris rheolaidd Pris gwerthu €10,50 EUR
Pris gostyngol Gwerthu allan
Dyletswyddau a threthi wedi'u cynnwys.

SKU:CS010 (Lawrlwytho)

By placing your order you agree to purchase from Global-e as the merchant of record, subject to Global-e’s Terms and Conditions and Privacy Policy, and share your information with Sain.

Rhagair   
Mae’r mwyafrif o’r trefniannau yn y gyfrol hon i’w clywed ar yr albwm Ar y Ffin, Sain SCD2206. Canllaw yn unig yw’r marciau metronom, byseddu ac unrhyw gyfarwyddiadau eraill. Does dim marciau metronom ar yr alawon traddodiadol ac felly mae rhwydd hynt i’r perfformiwr eu dehongli fel y myn.  Prydferthwch cerddoriaeth draddodiadol yw ei fod yn newid ac yn esblygu’n barhaus.  Fy nehongliad i o’r alawon a geir yn y trefniannau hyn ac mae’n bosib eu perfformio yn union fel y maent wedi cael eu hysgrifennu, neu, eu defnyddio fel man cychwyn ar gyfer dehongliad newydd, cwbl bersonol. Y delyn Geltaidd yw fy offeryn i ond mae’r trefniannau hyn yn addas ar gyfer y delyn bedal a’r delyn deires ac hefyd ar gyfer y piano neu’r allweddell. (Byddai’n rhaid anwybyddu’r byseddu wrth eu perfformio ar unrhyw offeryn heblaw’r delyn).

Diolch yn fawr i Gwenan Gibbard am ei gwaith yn golygu’r casgliad hwn.
Delyth Jenkins

Cynnwys  
Rhagair  
Nodiadau ar yr alawon  
Bourée i 
Bourée ii 
Land of Lost Content 
Glân Meddwdod Mwyn  
Môn 
Yr Hen Dôn 
Y Corgi Bach  
Y Bardd  
Mother’s Delight 
Castle Hill
Nyth y Gog 
Difyrrwch Gwyˆr Llangrallo 
Diferiad y Gerwyn 
Walts Trefforest 
Ian ruairidh’s Lament 
Disgyddiaeth  
Cyhoeddiadau  

Gweld y manylion llawn