Ar Log
AR LOG - VIII
AR LOG - VIII
SKU:SCD2872 (Rhag-archebu / Pre-order)
Methu â llwytho argaeledd casglu
Mae 2026 yn flwyddyn arbennig iawn i Ar Log. Go brin y byddai unrhyw un wedi dychmygu y byddai’r grŵp yn dathlu eu pen-blwydd yn 50 pan ffurfiwyd Ar Log yn yr Ŵyl Geltaidd yn Lorient, Llydaw nôl yn 1976. Ond, yn dilyn anogaeth gan y Dubliners ar ôl cyngerdd cyntaf y grŵp, mae Ar Log, erbyn hyn, wedi mynd â cherddoriaeth Cymru i dros ugain o wledydd ar dri chyfandir a nhw oedd y grŵp gwerin traddodiadol Cymraeg proffesiynol cyntaf. Yn ystod eu teithiau mae Ar Log wedi rhannu’r llwyfan gyda rhai o artistiaid gwerin mwya’r byd a hynny drwy ddilyn y traddodiad gwerin hir yng Nghymru o berfformio caneuon yn yr iaith Gymraeg yn ogystal ag adfywio traddodiad mwy hynafol o berfformio darnau offerynnol.
Rhwng 1978 a 2026 mae Ar Log wedi rhyddhau pymtheg albym a thair sengl, a hwn yw’r wythfed albym yn y gyfres eponymaidd (gweler Y Disgograffi).
Hwn hefyd yw’r albwm cyntaf ers i ni golli Dave Burns, aelod gwreiddiol o’r grŵp, a gobeithiwn y bydd cynnwys ei gyfraniad glew olaf o flaen y microffon yn deyrnged iddo ac yn sicrhau ei bresenoldeb parhaol fel aelod o Ar Log.
1 YR AGORAWD
2 HIN DEG
3 MOEL YR WYDDFA
4 Y DDWY CHWAER
5 PERERINDOD AEDDAN SANT
6 DEWI SANT
7 SANT PADRIG
8 BARDD Y DERYN DU (A BARDD Y GADAIR DDU)
9 Y DDWY CHWAER - AILADRODDIAD
10 GŴYL
11 TAITH
12 MAE LLEUCU WEDI MARW
13 RHOSYN TRALÎ (TRAC BONWS)
Rhannu
