Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Dafydd Iwan

Ar Dân

Ar Dân

Pris arferol $38.00 USD
Pris arferol Pris gwerthu $38.00 USD
Sêl Gwerthu allan
Treth wedi'i chynnwys.

SKU:Sain 1217

Yn ystod mis Mehefin a dechrau Gorffennaf bûm  ar daith trwy Gymru gyda’r rhaglen ‘Dafydd Iwan Ar Dân!’, rhaglen o ganeuon newydd, rhai wedi eu trosi o ieithoedd eraill, rhai nad oeddwn wedi eu cyflwyno ar lwyfan o’r blaen, ambell i hen ffefryn ac ambell i barodi. Diolch Hefin a Tudur, ac i rai miloedd ohonoch chi, bu’r daith yn brofiad cofiadwy imi. Cofnod o’r daith yw’r record hon, sy’n llwyddo i gyfleu awyrgylch y ‘noson fyw’ lle mae adwaith cynulleidfa lawn cyn bwysiced â’r canu ei hun. Estron ydw i mewn stiwdio recordio, ond rwy’ fel pa bawn i gartre’ ar lwyfan, a hynny, gobeithio, sy’n gwneud y record hon yn wahanol.

 

Ond nid caneuon i’ch gwneud yn gartrefol mo’r rhain chwaith. Yn y byd ac yn y Gymru sydd ohoni, all neb yn ei lawn bwyll eistedd yn ôl yn braf a’i draed i fyny. Gyda’r ‘Trident’ ar y gorwel a’r awyren yn chwarae rhyfel uwch ein pennau, gyda cymdeithasau’n cael eu chwalu a diffyg gwaith fel cancr yn ein broydd, fedrwn ni ddim fforddio bod yn ddi-fater. Pobl ydym ninnau, fel pobl Chile, El Salvador ac Iwerddon sy’n ymladd am ryddid, ac yng ngeiriau Victor Jara, am ‘yr hawl i fyw menw heddwch’. Os ydym am ennill yr hawl honno’n ddi-drais rhaid yn gyntaf ddinoethi’r trais a’r rhyfelgarwch gwallgo sy’n sail i lywodraeth fel llywodraeth Lloegr ar hyn o bryd. Mae America a Rwsia lawn cyn waethed mi wn, ond ryden ni’n talu trethi i lywodraeth Lloegr….. Dafydd Iwan. Gorffennaf 1981.

Ochr 1

  1. A gwn fod popeth yn iawn
  2. Teg oedd yr awel
  3. Ac fe ganon ni
  4. Parodi ar ‘Eifionydd’
  5. Magi Thatcher
  6. Mae rhywun yn y carchar
  7. Y Dref a gerais i gyd
  8. Pam fod eira yn wyn

Ochr 2

  1. Am na ches i wâdd i’r briodas
  2. Parodi ar ‘Hon’
  3. Cân search (I awyren ryfel)
  4. Y pedwar cae
  5. Bod yn rhydd
  6. Cân Victor Jara
  7. Yr hawl i fyw mewn hedd

 

1981

Gweld y manylion llawn