Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Eleri Llwyd

Am Heddiw mae 'Nghân

Am Heddiw mae 'Nghân

Pris rheolaidd £12.98 GBP
Pris rheolaidd Pris gwerthu £12.98 GBP
Gwerthu Gwerthu allan
Trethi wedi'u cynnwys.

SKU:SAIN SCD1073

Dyma gyfres newydd o recordiau finyl chwedlonol ac eiconig a fydd yn cael eu hail-ryddhau gan label Sain.  A’r artist cyntaf yn y gyfres…ELERI LLWYD.  Bydd ‘Am heddiw mae ’nghân’, record hir cyntaf Eleri, a ryddhawyd yn wreiddiol yn 1977, ar gael eto ar finyl ar y 3ydd o Awst, ac mae modd  rhag-archebu copiau ar wefan Sain.  Mae’r nifer yn gyfyngedig ac wedi eu rhifo, felly cyntaf i’r felin…  

Bydd fersiwn CD hefyd ar gael, a fydd yn cynnwys dau drac ychwanegol, sef ‘Nwy yn y nen’ ac ‘o Gymru’.   

Yn un o leisiau mwyaf blaenllaw a chofiadwy Cymru’r 70au, rhyddhaodd Eleri ei sengl gyntaf ar label Sain yn 1971.  Yn yr un flwyddyn, cipiodd deitl ‘Cân i Gymru’ gyda’i pherfformiad o gân fytholwyrdd Dewi Pws, ‘Nwy yn y Nen’.  Yn aelod o’r grwpiau ‘Y Nhw’ a ‘Y Chwyldro’, daeth Eleri yn fwy-fwy amlwg fel cantores unigol ac ar ei halbym unigol cyntaf, clywn lais hudolus Eleri yn ein tywys drwy amrywiol arddulliau gan greu, yng ngeiriau Gruff Rhys, ei symudiad ‘prog gwerin-opera-disgo’ unigryw ei hun.  Gyda chyfraniadau offerynnol gan rai o gerddorion amlycaf y cyfnod - Hefin Elis (gitâr ac amrywiol offerynnau), Charli Britton (drymiau), a Pete Griffiths (gitâr), gyda Hefin Elis hefyd yn cynhyrchu, dyma albym sy’n sefyll prawf amser ac yn sicr o ddenu gwrandawyr o’r newydd i werthfawrogi talent arbennig Eleri Llwyd. 

TRACIAU:

1. Ble rwyt ti heno?
2. Dawns
3. Blentyn Mair
4. Pryd y caf weled fy Nghymru’n rhydd
5. Pluen eira
6. Fffarwel Fehefin
7. Esgus yw dy gariad
8. Crinddail Hydref
9. Colli
10. Cariad Cyntaf
11. Mae’n Rhydd
12. Am Heddiw mae 'Nghân

Gweld y manylion llawn