Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Eleri Llwyd

Am Heddiw mae 'Nghân

Am Heddiw mae 'Nghân

Pris arferol £17.99 GBP
Pris arferol Pris gwerthu £17.99 GBP
Sêl Gwerthu allan
Treth wedi'i chynnwys.

SKU:Finyl1073

Yn un o leisiau mwyaf blaenllaw a chofiadwy Cymru’r 70au, rhyddhaodd Eleri ei sengl gyntaf ar label Sain yn 1971. Yn yr un flwyddyn, cipiodd deitl ‘Cân i Gymru’ gyda’i pherfformiad o gân fytholwyrdd Dewi Pws, ‘Nwy yn y Nen’. Yn aelod o’r grwpiau ‘Y Nhw’ a ‘Y Chwyldro’, daeth Eleri yn fwy-fwy amlwg fel cantores unigol ac ar ei halbym unigol cyntaf, clywn lais hudolus Eleri yn ein tywys drwy amrywiol arddulliau gan greu, yng ngeiriau Gruff Rhys, ei symudiad ‘prog gwerin-opera-disgo’ unigryw ei hun. Gyda chyfraniadau offerynnol gan rai o gerddorion amlycaf y cyfnod – Hefin Elis (gitâr ac amrywiol offerynnau), Charli Britton (drymiau), a Pete Griffiths (gitâr), gyda Hefin Elis hefyd yn cynhyrchu, dyma albym sy’n sefyll prawf amser ac yn sicr o ddenu gwrandawyr o’r newydd i werthfawrogi talent arbennig Eleri Llwyd.

Hefyd ar gael fel CD.

Ochr Un -

1. Ble 'Rwyt Ti Heno?

2. Dawns

3. Blentyn Mair

4. Pryd y Caf Weled fy Nghymru'n Rhydd

5. Pluen Eira

6. Ffarwel Fehefin

Ochr Dau -

7. Esgus yw dy Gariad

8. Crinddail Hydref

9. Colli

10. Cariad Cyntaf

11. Mae'n Rhydd

12. Am Heddiw Mae 'Nghân

Gweld y manylion llawn