Adra’n Ôl
Adra’n Ôl
SKU:SCD2843
Magwyd Ieuan yn Llandrillo-yn-Rhos yng Nghonwy, ond mae ei wreiddiau yn ddwfn yn Sir Feirionnydd lle magwyd ei rieni ar ffermydd. Graddiodd o Goleg Cerdd Brenhinol y Gogledd yn 2019 ar ôl cwblhau ei radd Meistr gydag ysgoloriaeth lawn. Gadawodd y coleg â sawl cymeriad operatig yn ei repertoire, yn ogystal â llu o wobrau, gan gynnwys Ysgoloriaeth Sefydliad Andrew Lloyd Webber, Gwobr James Martin Oncken, Ysgoloriaeth De Turckheim y Drapers, ac yn ei flwyddyn olaf fe dderbyniodd yr ail safle yng nghystadleuaeth fawreddog Gwobr Goffa Elizabeth Harwood.
Mae eisteddfodau wedi bod yn rhan enfawr o fywyd Ieuan ers pan oedd yn ifanc, o drafeilio i eisteddfodau bychain lleol er mwyn ennill pres poced tra oedd yn y coleg, i fod yn ddigon ffodus i ganu ar lwyfan mawr Pafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac mae pob un o’r profiadau hynny wedi bod yn bwysig. Bu Ieuan yn ffodus o gael llwyddiant mewn sawl cystadleuaeth nodedig, gan gynnwys ennill yr adran Sioe Gerdd yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd a chael ei ddewis yn un o’r chwech i gystadlu am Ysgoloriaeth Bryn Terfel. Yn yr Eisteddfod Genedlaethol bu Ieuan yn fuddugol yng nghystadleuaeth Gwobr Goffa Osborne Roberts, derbyniodd Ysgoloriaeth Wilbert Lloyd Roberts, ac yn 2019, cafodd yr anrhydedd o ennill Gwobr Goffa W Towyn Roberts.
Mae Ieuan eisoes wedi cael y pleser o ganu mewn ambell le arbennig yn gynnar yn ei yrfa, gan gynnwys Neuadd Bridgewater ym Manceinion, Neuadd Frenhinol Albert, ac yn 2018, gwireddodd freuddwyd wrth gael rhannu llwyfan â Syr Bryn Terfel yn sioe agoriadol yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghanolfan y Mileniwm. Mae hefyd wedi canu cryn dipyn dramor, gan gynnwys yn Norwy, Ffrainc, Yr Eidal, Canada a’r Unol Daleithiau.
Yn awr bydd Ieuan yn cychwyn ar siwrnai gyffrous ei yrfa ym myd cerddoriaeth a pherfformio, gyda’r nod o berfformio mewn operâu, sioeau cerdd a chyngherddau ym mhedwar ban byd. Mae’r dewis o ganeuon ar yr albwm yma’n adlewyrchu ei amlochredd fel canwr a pherfformiwr, ynghyd â’i angerdd am sawl genre, ac ar brydiau, ei awydd i groesi genres, fel y gwelir yma.
1 Shenandoah
2 Impossible Dream
3 Lisa Lân
4 All The Things You Are
5 Fy Nghartref Yn Y Wlad
6 If I Were A Rich Man
7 Llanrwst
8 Deh Vieni Alla Finestra
9 If Ever I Would Leave You
10 Where Is The Life That Late I Led?
11 Pan Fo’r Geiriau Wedi Gorffen
12 Au Fond Du Temple Saint
13 Some Enchanted Evening
14 Gwisg Fi’n Dy Gariad
15 Rhys
Traciau Bonws
16 Shenandoah – Cymraeg
17 Popeth Wyt Ti
18 My Little Welsh Home