Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Cwmbach Male Choir

A Century of Song

A Century of Song

Pris rheolaidd £12.98 GBP
Pris rheolaidd Pris gwerthu £12.98 GBP
Pris gostyngol Gwerthu allan
Trethi wedi'u cynnwys.

SKU:SCD2820

Cwm Cynon yw cartref Côr Meibion Cwmbach, ac ym mhentref Cwmbach ar gyrion Aberdâr y ffurfiwyd y côr ar y 10fed o Fehefin, 1921. Dros y 100 mlynedd diwethaf bu’r côr yn ganolog ym mywyd diwylliannol yr ardal gan gyfoethogi a chynnal y traddodiad cerddorol yn y rhan hon o Gymru. O’r cychwyn cyntaf bu’r côr yn llwyddiannus wrth gystadlu, a thros y blynyddoedd daeth nifer o brif wobrau’r Eisteddfod Genedlaethol i’w ran a hefyd y wobr gyntaf deirgwaith yn olynol yn Eisteddfod Glowyr De Cymru yn y 1960au. Perfformiodd y côr yn nifer o neuaddau cyngerdd mwyaf blaenllaw Prydain gan rannu llwyfan gydag enwogion megis Syr Geraint Evans, Owain Arwel Hughes, Stuart Burrows, Harry Secombe a Paul Robeson a theithiodd y côr yn helaeth hefyd gan berfformio dramor yn Ewrop, Canada, America a De Affrica. Mae sawl casgliad o ganeuon wedi eu rhyddhau ar record a CD a bu sawl perfformiad radio a theledu dros y blynyddoedd. Wrth ddathlu cyrraedd y garreg filltir nodedig hon yn ei hanes ac wrth edrych yn ôl ar lwyddiannau a chyfraniad y côr y gobaith yw y bydd y 100 mlynedd nesaf hefyd yn adleisio gweithgaredd a bwrlwm cerddorol y gorffennol.

COMRADES IN ARMS
AUS DER TRAUBE
3 SI HEI LWLI ’MABI
CONSPIRATORS’ CHORUS
CROEN Y DDAFAD FELEN
DIOLCH I’R IÔR
7 O NA BYDDAI’N HAF O HYD
BRYN MYRDDIN
SOFTLY AS I LEAVE YOU
10 SPEED YOUR JOURNEY
11 MYFANWY
12 LAUDAMUS
13 BUI DOI
14 I’SE WEARY OF WAITING
15 GWAHODDIAD
16 KALINKA
17 ANTHEM
18 BENEDICTUS
19 HALLELUJAH
20 TELL MY FATHER
21 SARAH

Gweld y manylion llawn