Tyrchu Sain (Pecyn cyfyngedig arbennig - Feinyl a casét)
Tyrchu Sain (Pecyn cyfyngedig arbennig - Feinyl a casét)
SKU:SAIN2864 & C2864
DYDDIAD RHYDDHAU - 25/02/2025
Feinyl pwysau trwm 180g / Feinyl Eco-gyfeillgar, gydag obi-strip a caset cyfyngedig iawn
Caiff y cerddor, Don Leisure, ei gydnabod fel un o’r cynhyrchwyr a’r arbenigwyr bît mwyaf arbrofol a mentrus yn yr ecosystem gerddorol gyfredol. Mae’n un hanner o’r ddeuawd Darkhouse Family (gyda Earl Jeffers) ac mae wedi cydweithio gydag artistiaid megis Angel Bat Dawid, Gruff Rhys, DJ Spinna a’i gyd-gerddorion ar label First world, Amanda Whiting a Tyler Dayley (Children of Zeus). Mae hefyd wedi derbyn cefnogaeth a chlod gan Lauren Laverne, Tom Ravenscroft, Huw Stephens, Gilles Peterson, Huey Morgan, The Vinyl Factory, Clash, Uncut ac eraill. Dros y blynyddoedd casglodd Don wybodaeth drylwyr a helaeth am gerddoriaeth o bob math o genres ac is-ddiwylliannau, yn arbennig felly cerddoriaeth werin seicadelig yn y Gymraeg a ryddhawyd yn ail hanner yr 20fed ganrif. Dechreuodd ei ddiddordeb yng ngherddoriaeth Cymru pan gyflwynodd y cerddor a’r cynhyrchydd cydnabyddedig, Andy Votel, y casgliad aml-gyfrannog ‘Welsh Rarebeat’ iddo – casgliad a ddetholwyd gan Votel, ar y cyd gyda Gruff Rhys a Don Thomas, o blith ôl-gatalog Sain, ac a ryddhawyd gyntaf yn 2005. Erbyn hyn Sain yw’r label recordio annibynnol hynaf yng Nghymru ac mae’n parhau i ryddhau cerddoriaeth o bob math gan rai o artistiaid cerddorol mwyaf blaenllaw y wlad. Wedi sefydlu yng Nghaerdydd recordiwyd nifer o deitlau cynnar Sain yn Stiwdio Rockfield yn Sir Fynwy, ond symudodd y cwmni i ardal Caernarfon ar ddechrau’r 70au gan agor Stiwdio Gwernafalau yn Llandwrog yn 1974, cyn symud i lawr y lôn i stiwdio newydd sbon yn 1980, yng Nghanolfan Sain. Dros y flwyddyn a aeth heibio mae’r label wedi bod yn gweithio ar brosiect arbennig, ar y cyd gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru, i ddigido’r holl archif. Bydd yr archif, sy’n cwmpasu 55 mlynedd o recordiau, yn cael ei diogelu mewn fformat digidol ar gyfer y cenedlaethau sydd i ddod. Bu’r prosiect digido yn gyfnod o ail-ddarganfod a gwerthfawrogi o’r newydd ac fel rhan o hyn gwahoddwyd Don Leisure i dyrchu yn yr archif werthfawr i greu ffrwydriad o dapestri sonig o’r hen recordiau llychlyd. Meddai un o gyd-sylfaenwyr y label, Dafydd Iwan: ‘Dychmygwch rhywun yn rhoi caniatad i chi bori mewn archif o dros 50 mlynedd o gerddoriaeth boblogaidd Gymraeg – y cyfan bron yn ddiethr i chi. Mi fyddai’n brofiad rhyfedd, yn sicr, rhyw dir newydd, estron ac eto’n llawn cynnwrf. Dyma ddigwyddodd i Jamal (Don Leisure) – a chafodd ei gyfareddu gan fyd o gerddoriaeth na wyddai amdano o’r blaen, a phan ofynwyd iddo greu albym wedi ei seilio ar y profiad, derbyniodd yn syth. A dyma’r canlyniad – record o synau lliwgar i groniclo hanner canrif o gerddoriaeth Gymraeg. Mae’n albym hollol arbennig ac unigryw, albym na allai neb ond Don Leisure ei gyflawni. Gwrandewch a mwynhewch.’
Y canlyniad felly yw ‘Tyrchu Sain’, albym sy’n dal dim yn ôl ac yn archwilio heb ffiniau, ac albym sy’n caniatáu i Don roi ei stamp annisgwyl ei hunan ar gyfansoddiadau gwych ac arallfydol. Mae’r record yn cynnwys cyfraniadau gan artistiaid eraill o Gymru sy’n rhannu diddordeb Don Leisure yng ngherddoriaeth Cymru’r cyfnod a fu, gan gynnwys Gruff Rhys, Carwyn Ellis, Earl Jeffers, Amanda Whiting a Boy Azooga. Mae’r sengl gyntaf, ‘Cynnau Tân’, yn cynnwys cyfraniadau lleisiol gan Carwyn Ellis (un o’r lleisiau mwyaf diddorol ar y sîn gerddoriaeth yng Nghymru heddiw, yn ôl Don, ac un a gydweithiodd yn ddiweddar gyda Coco Maria fel rhan o’i brosiect Rio 18). Mae’r trac yn mynd â ni ar gyfeiliorn ac ar daith sonig i fyd arall, gan gyfuno naws hamddenol a lled feddwol y 60au gyda lleisiau sy’n ymdroelli ac yn ymestyn a chyfres o gordiau hypnotig, i greu effaith arbennig. Meddai Carwyn am y cydweithio rhwng y ddau: ‘Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda Don eto, yn arbennig gan ei fod o wedi cyfrannu i albym diweddaraf Rio 18. Mae ei ddiddordeb obsesiynol a’i wybodaeth am hen recordiau Cymraeg yn gwbl anhygoel!’ Mae’r ail sengl, ‘Tyrchu’ yn cynnwys lleisio mwyn a chynnil Gruff Rhys dros rannau offerynnol hamddenol, gan greu, yng ngeiriau Gruff, ‘trysorau bît newydd a gloyw yn adlewyrchu ysbrydion pop y gorffennol, wedi eu tyrchu yn ofalus ac yn greadigol o wythiennau label Sain.’ Un arall a gyfrannodd i’r albym yw Jessy Allen, gyda’i llais hudolus yn amlwg ar y trac cyntaf, ‘Y Dechrau’. Meddai Jessy: ‘Mae albym Don yn berl go iawn, sy’n parchu ac yn dathlu’r gorffennol ac yn cadarnhau ac yn arwain sain cerddoriaeth Gymreig y dyfodol. Dwi’n edrych ymlaen yn arw i bawb gael ei glywed.’
Yn gwrlid Cymreig o sain, mae ‘Tyrchu Sain’ yn croesi ffiniau rhwng gwerin acid, alawon sy’n cyffwrdd yr enaid a synau arallfydol, a’r cyfan yn cael ei yrru gan guriadau a gweadau anelwig. Gan roi bywyd newydd i gyfansoddiadau’r gorffennol dyma albym fydd yn agor y drws i wrandawyr newydd gael darganfod hud a swyn ein cerddoriaeth.
Rhestr traciau, gan gynnwys manylion recordiau ac artistiaid gwreiddiol -
01 - Don Leisure (cyhyrchu) Jessy Allen (llais) David Newington (drymiau, piano synth) Earl Jeffers (synth ychwanegol) Andy Brown (bas) Amanda Whiting (telyn)
Sampl a ddefnyddiwyd - Bran ‘Nodau Hud’ SAIN1070M
02 - Don Leisure (cynhyrchu)
Sampl a ddefnyddiwyd - Heather Jones - ‘Plentyn Serch’ SAIN1047M
03 - Don Leisure (cynhyrchu)
Sampl a ddefnyddiwyd - Phil Edwards ‘Tyred’ SAIN1019M
04 - Don Leisure (cynhyrchu) Gruff Rhys (llais + allweddellau)
Sampl a ddefnyddiwyd - Delwyn Sion ‘Aros yn Dy Gwmni’ SAIN106
05 - Don Leisure (cynhyrchu)
Sampl a ddefnyddiwyd - Sidan ‘Doli Glwt’ SAIN1017
06 - Don Leisure (cynhyrchu)
Sampl a ddefnyddiwyd - Edward H. Dafis ‘Angau’ SAIN1053
07 - Don Leisure (cynhyrchu)
Sampl a ddefnyddiwyd - Endaf Emlyn - ‘Broc Mor’‘ SAIN1051M
08 - Don Leisure (cynhyrchu)
Samplau a ddefnyddiwyd - Shwn - ‘Mynydd Glas’ SAIN 1139M, Huw Jones - ‘Dwr’ SAIN1
09 - Don Leisure (cynhyrchu) Carwyn Ellis (llais)
Samplau a ddefnyddiwyd - Meic Stevens - ‘Y Meirw Byw’ SAINC839, Hefin Elis - ‘Culhwch Ac Olwen’ SAIN1030
10 - Don Leisure (cynhyrchu)
Sampl a ddefnyddiwyd - Injaroc ‘Capten Idole’ SAIN1094
11 - Don Leisure (cynhyrchu) Earl Jeffers (cynhyrchu / synths)
Sampl a ddefnyddiwyd - Endaf Emlyn - ‘Un Nos Ola Leuad’ SAIN1206
12 - Don Leisure (cynhyrchu)
Samplau a ddefnyddiwyd - Brân - ‘Y Crewr’ SAIN1038M
Brân - ‘Y Gwylwyr’ SAIN1038M, Brân - ‘Breuddwyd Hud’ SAIN1120M, Yr Atgyfodiad - ‘Agor Dy Galon’ SAIN41
13 - Don Leisure (cynhyrchu)
Sampl a ddefnyddiwyd - Nia Ben Aur - ‘Cerdded’ SAIN1019M
14 - Don Leisure (cynhyrchu)
Sampl a ddefnyddiwyd - Sidan - ‘Di Enw’ SAIN1017
15 - Don Leisure (cynhyrchu) Andy Brown (bas)
Sampl a ddefnyddiwyd - Y Tebot Piws - ‘Dilyn Colomen’ SAIN25
16 - Don Leisure (cynhyrchu)
Samplau a ddefnyddiwyd - Edward H Dafis ‘Lisa Pant Ddu’ SAIN1034, Miri Mawr - ‘Steddfod’ SAIN49
17 - Don Leisure (cynhyrchu)
Samplau a ddefnyddiwyd - Edward H Dafis - ‘Gwrandewch’ SAIN38B
Y Tebot Piws - ‘Dilyn Colomen’ SAIN25
18 - Don Leisure (cynhyrchu)
Sampl a ddefnyddiwyd - Edward H Dafis - ‘Gwrandewch’ SAIN38B
19 - Don Leisure (cynhyrchu) Dafydd Brynmor Davies (drymiau) Earl Jeffers (bas)
Sampl a ddefnyddiwyd - Eliffant - ‘W Capten’ SAIN1130M
20 - Don Leisure (cynhyrchu) Dafydd Iwan (llais)
Sampl a ddefnyddiwyd - Hefin Elis - ‘Culhwch Ac Olwen’ SAIN1030