Fi fydd yn gafael yn dy law
Fi fydd yn gafael yn dy law
SKU:SCD 2840
Mae hwn yn gasgliad arbennig iawn sy’n dod a llawer o linynnau at ei gilydd. Yn ystod y clo mawr, gwelsom gymunedau drwy Gymru yn ymateb mewn ffyrdd creadigol i’r argyfwng, ac un o’r
pethau a ddigwyddodd yn Llanuwchllyn oedd ymgynnull i ganu emynau ar y stryd o dan arweiniad y gantores opera Mary Lloyd Davies, a thystia llawer i’r fendith a’r hwb a gawsant yn y sesiynau anffurfiol hynny.
Ar yr un pryd, roedd y pianydd dalentog o Ddeiniolen Annette Bryn Parri yn gofalu am ei gŵr Gwyn yn ei waeledd, ac arweiniodd y profiad hwnnw i Annette gyfansoddi can arbennig iawn i Gwyn. Pan alwodd Mary i’w gweld yn Neiniolen, apeliodd y gan ati ar unwaith, ac fe’i recordiwyd gydag Annette wrth gwrs yn cyfeilio. Aeth Mary ati wedyn i greu fersiwn yn Saesneg, ac fe’i gwahoddwyd gan Sain i recordio’r ddwy fersiwn yn y Stiwdio.
Ychwanegwyd hoff emynau Mary at gan Annette, ac rwy’n siwr y cytunwch fod yma gasgliad sy’n wirioneddol ysbrydoledig, yn gofnod o ysbryd cymunedol cyfnod y clo ar ei orau, yn ogystal a mynegiant o gariad dwfn Annette a Gwyn. Yn wir, rwy’n proffwydo y daw’r gân Fi fydd yn gafael
yn dy law yn ffefryn gan gantorion Cymru i’r dyfodol.
Cyflwynir y casgliad i Gwyn, i chwiorydd Mary, Ann a Llywela, ac i’r holl neiniau a theidiau na chafodd weld eu hwyrion a’u hwyresau dros gyfnod anodd y clo.
Dafydd Iwan
- Fi fydd yn gafael yn dy law
- Penlan (O iachawdwriaeth gadarn)
- Gareth (Wele wrth y drws yn curo)
- Beethoven (Trwy ddirgel ffyrdd mae’r uchel Iôr)
- Dusseldorf (Mae fy nghalon am ehedeg)
- Theodora (Gwawr wedi hirnos,cân wedi loes)
- Sandon (Lead, kindly Light, amid the encircling gloom)
- Lausanne (Iesu, Iesu,’rwyt ti’n ddigon)
- Maes-Gwyn (O fendigaid Geidwad clyw fy egwan gri)
- Berwyn (Tyrd atom ni, O Grëwr pob goleuni)
- Coedmor (Pan oedd Iesu dan yr hoelion)
- Aberystwyth (Jesu, lover of my soul)
- Price (I Galfaria trof fy wyneb)
- Emyn Hwyrol (Tangnefedd - Nefol Dad, mae eto’n nosi)
- Trewen (Mi wn fod fy Mhrynwr yn fyw)
- To take you by the hand