Ffrindiau Ryan
Ffrindiau Ryan
Casgliad arbennig o ganeuon Ryan Davies a nifer o’r artistiaid blaenllaw a fu’n rhannu llwyfannau Cymru gydag ef.
Cyflwyniad gan Dafydd Iwan:
Roedd Ryan Davies yn athrylith arbennig iawn, a’r artist cyntaf i gael ei benodi fel perfformiwr Cymraeg proffesiynol ar deledu yng Nghymru. Ei gryfder oedd ei allu i apelio at gynulleidfaoedd yn y ddwy iaith, a hynny fel canwr a digrifwr, ac fel actor amryddawn. Roedd hefyd yn gyfansoddwr medrus, ac yn cyfeilio iddo’i hun ar biano a thelyn. Cyn ei farw disymwth yn 1977 yn Nhalaith Efrog Newydd yn ddim ond 40 oed, rhannodd y llwyfan gyda llu o gantorion eraill, gan gynnwys ei gydymaith agos Ronnie Williams, a hynny’n aml yng nghlwb y “Double Diamond” yng Nghaerffili.
Mae llawer o’r artistiaid hynny a fu’n perfformio gyda Ryan i’w clywed ar y CD hon, sy’n dangos ehangder y talentau oedd ar gael yng Nghymru yn 60au a 70au’r ugenifed ganrif. Bydd y casgliad hwn yn siwr o ail-greu awyrgylch un o’r cyfnodau mwyaf cyffrous yn hanes adloniant ysgafn yng Nghymru.
Diolch i weddw Ryan, Irene Ryan-Davies, a’r plant Arwyn a Bethan, am eu cyd-weithrediad parod iawn wrth roi’r casgliad hwn at ei gilydd.
- Ffrind i mi (RYAN DAVIES)
- Rheilffordd Tal-y-Llyn (RYAN DAVIES)
- Ddoe mor bell (RYAN DAVIES)
- Ti a dy ddoniau (RYAN A RONNIE)
- Tro, tro, tro (MARY HOPKIN)
- Pam na ddoi di Gwen (TONY AC ALOMA)
- Moliannwn (HENNESSYS)
- Hen geiliog y gwynt (IRIS WILLIAMS)
- There but for fortune (MARALENE POWELL)
- Cylchoedd (Y DILIAU)
- Dai Corduroy (TRIBAN)
- Carnifal (MARI GRIFFITH)
- Wedi colli rhywbeth sy’n annwyl (TONY AC ALOMA)
- Banks of the Ohio (MARALENE POWELL)
- A ddaw yn ôl (HENNESSYS)
- Yn y bore) (MARY HOPKIN)
- Hedd yn y dyffryn (MARGARET WILLIAMS)
- Dilyn y sêr uwchben (TRIBAN)
- Pan fo’r nos yn hir (HOGIA’R WYDDFA)