Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Rhisiart Arwel

etifeddiaeth | herencia | heritage

etifeddiaeth | herencia | heritage

Pris arferol £12.98 GBP
Pris arferol Pris gwerthu £12.98 GBP
Sêl Gwerthu allan
Treth wedi'i chynnwys.

SKU:SCD2794

Yn enedigol o Ddinbych, treuliodd Rhisiart ei blentyndod ym mhentref Garnswllt yn Nyffryn Aman a’i lencyndod yn nhre Corwen yn yr hen sir Feirionydd. Derbyniodd ei addysg uwchradd yn Ysgol y Berwyn y Bala a dechreuodd gael gwersi gitâr yn ei arddegau cynnar gyda John Arran. Aeth ymlaen i astudio’r gitâr yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd ym Manceinion gyda John Arran a Gordon Crosskey ac ar ôl gorffen ei astudiaethau, dychwelodd i Gymru i ddechrau ei yrfa fel cerddor proffesiynol. Yn ddiweddarach, derbyniodd Rhisiart ysgoloriaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru i astudio ymhellach ym Madrid gyda Ricardo Iznaola ac yn Llundain gyda John Duarte.

Bu Rhisiart yn perfformio’n rheolaidd ar lwyfannau ledled Cymru a thu hwnt, gan gynnwys ymddangosiad yn Neuadd Frenhinol Albert yn Llundain, ac mae wedi perfformio’n gyson ar y radio a’r teledu.

Bu Rhisiart yn gweithio fel tiwtor gitâr yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd ac mae hefyd wedi ymddangos fel unawdydd gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ar fwy nag un achlysur mewn consiertos gan Vivaldi a Rodrigo.

Fel rhan o ddathliadau 150 mlwyddiant sefydlu’r Wladfa ym Mhatagonia yn 2015, trefnodd Rhisiart gyfres o gyngherddau ar draws Cymru a’r Wladfa. Yn ystod y daith, perfformiodd gerddoriaeth o Gymru a De America a bu’n cydweithio gyda nifer o gerddorion blaenllaw o Gymru a’r Ariannin.

Mae rhaglen Rhisiart yn cynnwys cerddoriaeth o bob rhan o’r byd – gyda phwyslais arbennig ar gerddoriaeth o Sbaen a De America. Mae ei berthynas agos â’r Ariannin yn cael ei adlewyrchu ar y CD yma gydag esiamplau o weithiau sawl cyfansoddwr Archentaidd megis Ariel Ramirez, Abel Fleury a Jorge Cardoso.

Mae Rhisiart wedi cyfansoddi a threfnu nifer fawr o ddarnau ar gyfer y gitâr, ac mae’r cryno ddisg yma’n cynnwys nifer o esiamplau o’i waith.

Pleser o’r mwyaf yw cyflwyno’r casgliad yma o gerddoriaeth boblogaidd ar gyfer y gitâr. Mae’r gweithiau’n cynrychioli’r rhai rwyf wedi mwynhau eu perfformio fwyaf dros y blynyddoedd. Gobeithio’n fawr ceir yr un mwynhad yn y gwrando.

Hoffwn ddiolch yn arbennig i Myfyr Isaac am ei amynedd, ei brofiad cyfoethog a’i gyngor doeth wrth gynhyrchu’r gwaith yma. Diolch hefyd i Sandra (De Pol) am ei sylwadau gwerthfawr ac am y cyfieithiadau Sbaeneg. Hefyd, rwy’n ddiolchgar i Gwenan Gibbard o Gwmni Sain am ei dyfalbarhad a’i hamynedd.

Yn olaf, mae fy nyled yn fawr i Hanzel Davies (y Gaiman a Buenos Aires) am fy nghyflwyno i gerddoriaeth ysbrydoledig Abel Fleury.
Rhisiart Arwel

  1.  Sons de Carrilhões
  2.  Cavatina
  3.  Pader
  4.  Oblivion
  5.  Milonga
  6.  A Flor de Llanto
  7.  Estilo Pampeano
  8.  Alfonsina y el Mar
  9.  Lascia ch'io Pianga
  10.  Tair Cân Werin Gymreig
  11.  El Testament D'Amèlia
  12.  El Noi de la Mare
  13.  Rondeau Rhif/No. 6, Op. 48
  14.  Rhys
  15.  Un día de Noviembre
  16.  Hwiangerdd Mair
  17.  Julia Florida
Year
Gweld y manylion llawn