Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Various Artists

Mi Ganaf Gân - 101 o Ganeuon i'r Plant

Mi Ganaf Gân - 101 o Ganeuon i'r Plant

Pris arferol £14.99 GBP
Pris arferol Pris gwerthu £14.99 GBP
Sêl Gwerthu allan
Treth wedi'i chynnwys.

SKU:SCD2670

Dros y blynyddoedd, mae Sain wedi recordio peth wmbredd o ganeuon

ar gyfer plant o bob oed; cannoedd a dweud y gwir, yn amrywio o’r

traddodiadol anhysbys i’r cyfoes, o ganeuon dwli a ffantasi i ganeuon

dysgu a chwarae. Barnwyd mai da o beth fyddai cyhoeddi’r rhain ar ffurff casgliadau

swmpus, a dyma’r cyntaf o’r casgliadau hynny, gyda’r pwyslais ar y caneuon traddodiadol sydd wedi  cael eu canu gan blant Cymru ers cenedlaethau lawer. Ond ceir yma hefyd ganeuon gwreiddiol mwy diweddar, sy’n anelu at ehangu geirfa

a phrofiad plant ifanc, a’r rhain yn cael eu cyflwyno gan amrywiaeth o gantorion, yn unigolion, yn ddeuawdau a grwpiau, i amrywiaeth mawr o gyfeiliant cerddorol.

Mae’n anodd, onid amhosib, i ddiffinio’n union beth yw apêl cân dda i blant, a’r unig brawf mewn gwirionedd yw prawf amser: os yw plant yn dal i gael blas ar ei chanu,

yna mae’n gweithio. Am y rheswm hynny, gallwn fod yn hyderus fod y rhan helaethaf o’r caneuon yn y casgliad hwn eisoes wedi pasio’r prawf. Ond fel gyda phob cân dda,

mae’r briodas rhwng yr alaw a’r geiriau yn allweddol. Roedd J. Glyn Davies, sydd fwyaf adnabyddus am ei ganeuon morwrol, yn sylwebydd craff ar y grefft o lunio caneuon, ac yn arbennig y grefft o briodi geiriau ac alaw ar gyfer eu canu. Yn ei

ragymadrodd i’w lyfr Cerddi Huw Puw, dyma a ddywed am ganeuon plant (o gyfieithu ei sylwadau o’r Saesneg): “Ni ddylent fod ddim gwirionach (“sillier”) na chaneuon ar gyfer oedolion. Does gen i ddim rysait i’w gynnig; mater ydyw o allu

rhywun i fynd i mewn i hwyl a dawn plant i smalio-bach-oddifrif. Mae’r gweddill, i raddau helaeth, yn fater o wybod beth i’w adael yn y botel inc … Nid oes angen rheolau ar y sawl sydd a greddf ar gyfer sgrifennu caneuon, onid er mwyn gweld

pa rai o’r rheolau y gellir eu torri i bwrpas - ffordd pob cynnydd. Ond gellir eu cynghori i beidio â chymryd eu hunain na’u celfyddyd ormod o ddifri, neu mi wnânt gawl ohoni a chyflawni’r pechod marwol o greu diflastod.”

Credwn fod y casgliad cynhwysfawr hwn yn sicr yn osgoi creu diflastod, ac y gall fod yn drysorfa gyfoethog i blant Cymru’r dyfodol. Ein gobaith ni yw y cewch chi oll – yn blant, yn rhieni ac yn athrawon – ddefnydd a hwyl a phleser o wrando ar y casgliad hwn, ac o gyd-ganu’r caneuon. A thra pery’r canu, bydd yr iaith Gymraeg hithau byw.

 

CD1: Hwyl Meithrin: Dacw mam yn dwad, Fuoch chi rioed yn morio? (Plethyn), Mynd drot drot, Tair hwyaden lew, Hen frân fawr ddu, Bwrw glaw, Ar drot i’r dre, Ji geffyl bach, Draw mae yr asyn (Dafydd Iwan/Edward Morus Jones), Mi welais Jac-y-do, Gwen a Mair ac Elin, Dyn bach bach, Siôn Corn ydw i, Os gwelwch yn dda Siôn Corn (Mynediad am Ddim), Ffalabalam (Owain & Alwen Selway), Pry bach bach, Pedoli pedoli (Buddug Lloyd Roberts/Elinor Bennett), Joio (Delwyn Sion), Creision, pop a jeli, Swigod (Sian Teifi)

CD2: Anifeiliaid: Si-so gorniog (Plethyn), Llwynog coch sy’n cysgu, Mae gen i iâr a cheiliog, Ffwdl-da-da, Galop galop a charlam, Tomi Puw (Dafydd Iwan/Edward Morus Jones),  Dyma ni’n mynd i Fethlehem, Hei tyn tyn, Mynd i’r farchnad, Y fasged siopa,  Ar fferm yr Hafod, Y bwgan brain (Mynediad am Ddim),  Dewch am dro i Fferm Tad-Cu (Sassie Rees), Tri mochyn bach (Tony ac Aloma), Y fasged wyau, Pwsi meri mew (Buddug Lloyd Roberts/Elinor Bennett), Dacw dadi’n mynd i’r ffair, Tasa gen i ful bach (Sassie Rees), Noson Tân Gwyllt (Sian Teifi)

CD3: Gweld y byd: Ble’r ei di?, Os gwelwch chi’n dda ga’i grempog?, Hen fenyw fach Cydweli, Mi âf i Lunden Gla’me (Plethyn),  Tyrd am dro i’r coed, Mi welais long yn hwylio, I mewn i’r arch â nhw, Cân y gofod, Y ceiliog dandi, Be’ wnawn ni?, Tw-da-la (Dafydd Iwan/Edward Morus Jones),  Milgi milgi, Preseb Bethlehem, Mae’r syrcas yn y dre(Mynediad am Ddim), Mae naw carafan  (Sassie Rees), Tyrd i ffwrdd, Eira eira, Canu mis Mai, Mam wnaeth got imi, Ali ali o (Sassie Rees),

CD4: Symud a chwarae: Dyna ti yn eistedd, Mae gen i het dri chornel, Y gwcw, A wyddoch chi?, Bachgen glân wyf fi, Y pren ar y bryn, Un bys un bawd yn symud, Deg o adar bach y to, Dyn bach o Fangor, Daw hyfryd fis Mehefin, Pori mae yr asyn (Dafydd Iwan/Edward Morus Jones), Cadi ha, Dawns y bysedd,  Awn am dro i Frest Pen Coed, Plannu tatws,  Dawnswyr del, Lwp-di lwp (Mynediad am Ddim), Y seindorf (Sassie Rees), Nant y mynydd (Owain & Alwen Selway), Tri morwr bach (Delwyn Sion), Canu’r allweddellau (Sian Teifi)

CD5: Traddodiadol: Y ddafad gorniog, Si hei lwli mabi, Melinydd oedd fy nhaid, Cerdd dy’ Calan (Plethyn),  Migldi magldi, Mynd i’r ffair (Dafydd Iwan/Edward Morus Jones), Bachgen bach o dincer, Bonheddwr mawr o’r Bala, Parym-pym-pym, Dymunwn Nadolig Llawen (Mynediad am Ddim), Robin Goch a’r dryw bach, Heno, heno hen blant bach (Sassie Rees), Geneth fach o Lŷn, Owen dau funud, Hen wraig fach (Owain & Alwen Selway), Robin Goch a’r dryw bach (Buddug Lloyd Roberts/Elinor Bennett),   Rownd yr horn, Ar lan y môr, Twll bach y clo (Delwyn Sion), Gwenni aeth i Ffair Pwllheli, Cysga di fy mhlentyn tlws (Gwenan Gibbard)

Year
Gweld y manylion llawn