Skip to product information
1 of 1

Robat Arwyn

Yn dy gwmni di (unsain, deulais / bedwar llais)~ Digital Sheet Music Download (PDF)

Yn dy gwmni di (unsain, deulais / bedwar llais)~ Digital Sheet Music Download (PDF)

Regular price £8.99 GBP
Regular price Sale price £8.99 GBP
Reduced price Sold out
Taxes included.

SKU:CS026 (Lawrlwytho)

Comisiynwyd Yn dy gwmni di yn 2008 gan Ysgol Dyffryn Nantlle - yr ysgol a roddodd i mi addysg gerddorol o’r radd flaenaf, ynghyd â ’mhrofiadau cynhara’ fel cyfansoddwr yn ystod y saithdegau. Braint oedd cael ymateb i’r comisiwn gyda’r casgliad hwn o ganeuon. Fe’u cyfansoddwyd i fod yn hyblyg, fel bod modd eu cyflwyno’n unsain, deusain neu’n bedwar llais, a hynny gyda, neu heb, unawdwyr. 

Cyfansoddwyd Anfonaf Angel yn arbennig i Bryn Terfel, cyn-ddisgybl arall o’r ysgol. Cyfansoddwyd O llefara addfwyn Iesu yn wreiddiol ar gyfer Leah Owen nôl yn yr wythdegau, ac fe’i haddaswyd ar gyfer y comisiwn oherwydd perthnasedd y geiriau.

Brawdgarwch a chariad yw thema’r gwaith, ac fe’i perfformiwyd am y tro cyntaf yn Galeri, Caernarfon ar Ragfyr 16eg, 2008, gan ddisgyblion Ysgol Dyffryn Nantlle dan arweiniad Deilwen Hughes, Pennaeth Cerdd yr ysgol, ynghyd â Bryn Terfel, yr unawdydd gwadd.

Content
Yn dy gwmni di 
Dangos y ffordd 
Anfonaf Angel  
Hei, ti’n cŵl! Fersiwn deulais
Hei ti’n cŵl! Fersiwn satb  
O llefara addfwyn Iesu  
Dilyn dy olau 

View full details