Cwmni Theatr Maldwyn
Sycharth Yn Fy Ngwaed
Sycharth Yn Fy Ngwaed
SKU:CS136
Couldn't load pickup availability
14 O GANEUON GAN - Linda Gittins, Penri Roberts a Derec Williams.
Casgliad o unawdau, deuawdau a darnau corawl allan o rai o sioeau Cwmni Theatr Maldwyn -
Y Llew a’r Ddraig, Llwybr Efnisien, Crib, Siwswrn a Rasel, Mela, Gair yn Gnawd, Myfi Yw a Y Mab Darogan.
Cyflwyniad
Sefydlwyd Cwmni Theatr Maldwyn yn 1980 ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Machynlleth. Dros y blynyddoedd mae’r awduron Linda Gittins, Penri Roberts a’r diweddar Derec Williams, wedi cyfansoddi a chynhyrchu nifer o sioeau. Cyfansoddwyd rhai sioeau, megis Crib, Siswrn a Rasel, Llwybr Efnisien a Gair yn Gnawd ar gyfer pobl ifanc Ysgol Theatr Maldwyn a sefydlwyd yn 2004.
Casgliad o ganeuon o wahanol sioeau sydd yn y llyfr newydd hwn, caneuon sydd heb gael eu recordio mewn stiwdio tan yn ddiweddar (cyhoeddwyd cryno-ddisg o’r caneuon yn gynharach yn 2026). Daw rhai caneuon allan o’r sioeau Y Llew a’r Ddraig, Llwybr Efnisien, Crib, Siswrn a Rasel, Mela a Gair yn Gnawd. Mae yma unawdau (a allai apelio at bobl ifanc sy’n dymuno cystadlu ar unawd allan o sioe gerdd mewn eisteddfodau), deuawdau a darnau corawl. Cyfansoddwyd ‘Y Jerwsalem Newydd’ ar gyfer diweddglo digwyddiad arbennig – lle y perfformiwyd y Cantawd Gair yn Gnawd gan aelodau Ysgol Theatr Maldwyn, a’r Oratorio Myfi Yw gan aelodau Cwmni Theatr Maldwyn ar yr un noson, rai blynyddoedd yn ôl. Cyfansoddwyd ‘Ein Maldwyn Ni’ ar gyfer Cyngerdd y Plant yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 2024. Ychwanegwyd y gân ‘Sycharth yn fy Ngwaed’ at y sioe Y Mab Darogan, sef sioe gerdd gyntaf Cwmni Theatr Maldwyn a berfformiwyd am y tro cyntaf yn 1981.
Gobeithiwn fod yma amrywiaeth o ganeuon a fydd o ddefnydd i bobl ifanc ac yn wir i bobl o bob oed.
Penri Roberts 2026.
Atgofion a gwerthfawrogiad
o sioeau Cwmni Theatr Maldwyn
Luke McCall
Sara Meredydd
Steffan Harri
Geraint Roberts
Steffan Prys Roberts
Glain Rhys
Y Caneuon
Ein Maldwyn Ni
Ar Ben dy Hun Y LLEW A’R DDRAIG
Clywaf dy Lais LLWYBR EFNISIEN
Y Tŷ Sy’n Llawn o Dwyll LLWYBR EFNISIEN
Gofyn Gormod LLWYBR EFNISIEN
Y Jerwsalem Newydd
Difa Da Dwy Ynys LLWYBR EFNISIEN
Yn Ddigon Da Y LLEW A’R DDRAIG
Dilyn Llwybr Ffawd GAIR YN GNAWD
Pwy Fydd eu Meseia? GAIR YN GNAWD
Cariad Dan Olau y Sêr CRIB, SISWRN A RASEL
Ymladd yn Erbyn Ffawd CRIB, SISWRN A RASEL
Torri’n Rhydd MELA
Sycharth yn fy Ngwaed Y MAB DAROGAN
Share
