Clwt y Ddawns
Clwt y Ddawns
Ar y casgliad hwn ceir nifer o geinciau-dawnsio Cymreig a gwreiddiol ar gyfer ein dawnsiau gwerin traddodiadol a newydd. Mae nifer ohonynt wedi ei casglu a’u trefnu gan y diweddar Pat Shaw (Padrig Farfog) a fu’n bennaf gyfrifol am fodolaeth y gyfres o recordiadau Clwt y Ddawns 1 a 2. Rhyddhawyd Clwt y Ddawns 3 ar gais y Gymdeithas Ddawns Werin i goffau Pat Shaw ac fel y dywed y diweddar Gwyn Wiliams yn ei gyflwyniad “Credwn ninnau na fydd Pat Shaw fyth farw tra pery dawnswyr ifanc Cymru i droedio’r llawr i gyfeiliant y ceinciau a’r trefniannau nwyfus hyn.” Cyfansoddwyd nifer o’r dawnsiau newydd sydd ar y record Twmpath Dawns ar gyfer cystadleuaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe ym 1982, ac mae pob un o’r dawnsiau yn y casgliad. Gobeithiwn y bydd y casgliad hwn yn ddefnyddiol iawn, nid yn unig ar gyfer dysgu rhai o’r dawnsiau ffurfiol mewn ysgolion, adrannau pentref a phartïon dawns, ond hefyd yn ein dawnsfeydd cymdeithasol, mewn priodasau a nosweithiau twmpath.