Skip to product information
1 of 1

Various Artists

Caneuon Robat Arwyn III - Dal Y Freuddwyd

Caneuon Robat Arwyn III - Dal Y Freuddwyd

Regular price £9.99 GBP
Regular price Sale price £9.99 GBP
Sale Sold out
Tax included.

SKU:SCD2828

Each collection of songs by Robat Arwyn is special; he is, after all, the most prolific and popular composer in Wales today. When you think you’ve heard it all, Arwyn presents us with something new and different, each time his musicality and genuine talent shining through and the melodic charm and immediate appeal of his songs reaching out to a wide range of singers and musicians. Dafydd Iwan

Mae sawl peth sy’n gwneud y casgliad hwn yn un arbennig iawn. Yn gyntaf, wrth gwrs, mae unrhyw gasgliad o weithiau Robat Arwyn yn un gwerth ei gael; wedi’r cyfan dyma’r cyfansoddwr cyfoes mwyaf toreithiog, ac ehangaf ei apêl sydd gennym yng Nghymru. Pan fyddwch yn credu eich bod wedi clywed y cyfan, mae gan Arwyn y ddawn o greu rhywbeth newydd a gwahanol; a’r prawf eithaf yw amrywiaeth rhyfeddol yr artistiaid a’r cerddorion sy’n cael eu denu i ddehongli ei waith.

Daw hynny â ni at yr ail ffactor – sef y cantorion a glywir ar y casgliad hwn, sy’n amrywio o gewri fel Bryn Terfel a Rhys Meirion, i nifer o’n cantorion ifanc mwyaf addawol, fel Mared Williams, Rhydian Jenkins, Elain Llwyd, John Ieuan Jones, Ffion Emyr a Gwen Elin. Yn wir, ymhlith y rhain mae yna leisiau gwirioneddol wych a fydd yn serennu ar lwyfannau’r byd am flynyddoedd i ddod. Ychwanegwch at y rhain gantorion sydd wedi hen ennill eu plwy fel Steffan Prys Roberts ac Arfon Williams, ac y mae gennych gyngerdd gyda’r gorau.

Y trydydd elfen yw fod yma flas o rai o’r sioeau cerdd y bu gan Robat Arwyn ran fawr yn eu creu, sioeau fel “Er Mwyn Yfory”, lle bu’n cydweithio gyda thêm nodedig Theatr Maldwyn a Meirion ac “Atgof o’r Sêr”. Ac efallai yn bwysicaf, clywir yma bump o ganeuon o’r sioe a ysbrydolwyd gan fywyd Paul Robeson, “Hwn yw fy mrawd” sydd bellach wedi ennill arwyddocâd dyfnach wedi ymgyrch Mae Bywydau Du o Bwys.

A’r elfen olaf sy’n gwneud hwn yn gasgliad unigryw yw’r eitemau annisgwyl, megis y rhai sy’n ein hatgoffa o’r triawd a ddaeth ag Arwyn i’n sylw am y tro cyntaf – Trisgell – ac eitem offerynnol gan y telynor ifanc Llywelyn Ifan Jones. Ychwanegwch gorau Rhuthun, Llewyrch, Cordydd, Black Voices a chorau Cwmni Theatr Meirion, Côr Ieuenctid ‘Hwn yw fy mrawd’ a chôr Ysgol Ninian Park, a beth mwy sydd ar ddyn (neu ddynes) ei eisiau?!
Dafydd Iwan

1.Lle Mae Llais Yn Cyffwrdd Lleisiau – RHYDIAN JENKINS
2.Cân Cydwybod – MARED WILLIAMS/ELAIN LLWYD
3.Nerth Y Gân – RHYS MEIRION
4.Gwylia Dy Hun – TRISGELL
5. Dal Y Freuddwyd – STEFFAN PRYS ROBERTS
6. Wedi Dwlu – MARED WILLIAMS, ELAIN LLWYD, ELIN LLWYD, JOHN IEUAN JONES, STEFFAN PRYS ROBERTS
7. Yn Dy Gwmni Di – GWEN ELIN
8. Afon Ei Galon – BRYN TERFEL
9. Dy Garu O Bell – 50 SHED O LLEUCU LLWYD/FFION EMYR
10. Geiriau Gwag – CWMNI THEATR MEIRION
11. Tua’r Wawr – LLYWELYN IFAN JONES
12. Pregeth Y Mynydd – RHYS MEIRION/ROBAT ARWYN
13. Gardd O Gariad – CÔR LLEWYRCH
14. Anodd Byw – TRISGELL
15. Yn Llygad Y Llew – CÔR RHUTHUN
16. Llefarodd Yr Haul – RHYS MEIRION/ROBAT ARWYN
17. Yfory Ddaw – CWMNI THEATR MEIRION
18. Ar Hyd Y Nos – CÔR IEUENCTID HWN YW FY MRAWD
19. Gwisg Fi’n Dy Gariad – JOHN IEUAN JONES

Year
View full details