Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Lleisiau Beirdd Cymru

Yn Llefaru Eto

Yn Llefaru Eto

Pris arferol £12.98 GBP
Pris arferol Pris gwerthu £12.98 GBP
Sêl Gwerthu allan
Treth wedi'i chynnwys.

SKU:SCD2718

40 o draciau o feirdd Cymru yn darllen eu gweithiau mwyaf adnabyddus.
O T.Gwynn Jones i Gerallt Lloyd Owen, ac o Gwenallt i Iwan Llwyd. Lleisiau gwych T.H.Parry-Williams, Cynan, Rhydwen Williams, a recordiadau hanesyddol gan Waldo Williams a Saunders Lewis. Golwg newydd ar waith Euros Bowen a Niclas y Glais, ac yn goron ar y cyfan, recordiad unigryw o John Morris-Jones yn llafarganu darn o gywydd Goronwy Owen.
Cynhyrchwyd yr albym gan Dafydd Iwan a Gwyn Thomas a dyma gyflwyniad Gwyn Thomas i’r casgliad :
Y mae clywed llais unrhyw fardd yn darllen ei waith ei hun yn rhoi dirnadaeth arbennig o’r gwaith hwnnw, yn rhoi inni’r patrwm o synau a glywodd ef yn ei gerddi. Hyd yn oed os nad ydi’r darlleniad yn un graenus – ac y mae ambell fardd yn ddarllenwr sâl – y mae i’r darlleniad ei werth, gan ei fod yn awgrymu mai fel hyn y clywodd y bardd symudiad ei gerddi.
Ceir yma ddetholiad o leisiau nifer o feirdd nodedig y can mlynedd diwethaf, pob un ohonyn nhw wedi’n gadael ni erbyn hyn. Ond y mae nifer o feirdd y gellid disgwyl clywed eu lleisiau heb fod yma. Nid o fwriad y digwyddodd hynny. Y mae lleisiau rhai beirdd nad oes modd cael gafael arnynt – dyna ichwi lais R. Williams Parry, yn anad neb efallai, a llais W. J. Gruffydd, i enwi dim ond dau. Hynny ydi, dewis o leisiau yr oedd recordiadau ohonyn nhw ar gael a geir yma.
Rydym ni’n dechrau efo llais John Morris-Jones, wedi ei godi oddi ar silindr hynafol y daeth David Thorne o hyd iddo yn yr Almaen wrth weithio ar dafodieithoedd. Dydi Syr John ddim yn darllen ei waith ei hun, a dydi o ddim yn eglur iawn, ac am hynny fe roddir yma gopi o’r hyn y mae’n ei ddarllen er mwyn ein helpu i ddilyn y llais, a chlywed sut y darllenai o gerdd ar gynghanedd – yr oedd ei ddarlleniadau o ganu caeth yn cael eu hystyried yn gyfareddol yn eu dydd. Yna clywir lleisiau nifer dda o feirdd yn darllen cerddi sydd yn nodweddiadol o gynnyrch eu hawen.
Wrth lunio’r detholiad hwn, yr hyn a ddaeth yn drist o amlwg inni oedd mor bwysig ydi cadw defnyddiau

  1. Cywydd Goronwy Owen - JOHN MORRIS-JONES
  2. Madog - T. GWYNN JONES
  3. Y Nadolig Cyntaf - T.E. NICHOLAS
  4. Hiraeth am Forgannwg - T.E. NICHOLAS
  5. Geiriau - T.H. PARRY-WILLIAMS
  6. Hon - T.H. PARRY-WILLIAMS
  7. Moelni - T.H. PARRY-WILLIAMS
  8. Dychwelyd - T.H. PARRY-WILLIAMS
  9. Lavernock - SAUNDERS LEWIS
  10. Bore o Fai 1972 - SAUNDERS LEWIS
  11. Gweddi'r Terfyn - SAUNDERS LEWIS
  12. Araith Emrys Wledig - SAUNDERS LEWIS
  13. Aberdaron - CYNAN
  14. Anfon y Nico - CYNAN
  15. Capel Nanhoron - CYNAN
  16. Sir Forgannwg a Sir Gaerfyrddin - GWENALLT
  17. Cymru - GWENALLT
  18. Ar Gyfeiliorn - GWENALLT
  19. Cywydd Mawl i D.J. Williams - WALDO WILLIAMS
  20. Yr Alarch - EUROS BOWEN
  21. Y Griafolen - EUROS BOWEN
  22. Asgellaid o Aur - EUROS BOWEN
  23. Y Milwr Marw - PENNAR DAVIES
  24. Llanddwyn - PENNAR DAVIES
  25. Ar Ymweliad - ALUN LLYWELYN-WILLIAMS
  26. Gwyn Fyd y Griafolen - ALUN LLYWELYN-WILLIAMS
  27. Cywydd Diolch am Bot o Fêl - T. LLEW JONES
  28. Cofio Waldo - T. LLEW JONES
  29. Y Ffynhonnau - RHYDWEN WILLIAMS
  30. Hedydd yn yr Haul - T. GLYNNE DAVIES
  31. Adfeilion - T. GLYNNE DAVIES
  32. Y Cynhaeaf - DIC JONES
  33. Cerdd Goffa Alun Cilie - DIC JONES
  34. Fy Ngwlad - GERALLT LLOYD OWEN
  35. Etifeddiaeth - GERALLT LLOYD OWEN
  36. Cilmeri - GERALLT LLOYD OWEN
  37. Trafferth Mewn Siop - GERALLT LLOYD OWEN
  38. Aneirin - IWAN LLWYD
  39. Y Crydd - IWAN LLWYD
  40. Far Rockaway - IWAN LLWYD
itunesLink
Year
Gweld y manylion llawn