Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Dafydd Iwan & Ar Log

Yma o Hyd Cwpan y Byd

Yma o Hyd Cwpan y Byd

Pris arferol £2.99 GBP
Pris arferol Pris gwerthu £2.99 GBP
Sêl Gwerthu allan
Treth wedi'i chynnwys.

SKU:SCD2846

Mae cân enwoca Dafydd Iwan ‘Yma o Hyd’ wedi cael ei hail-fastro o’r tapiau gwreiddiol a’i hailgymysgu gyda lleisiau’r Wal Goch i greu’r trac cyffrous a fydd yn anthem swyddogol ar gyfer ymddangosiad Cymru yng Nghwpan y Byd FIFA 2022. Gosodwyd meicroffonau cudd yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn ystod y ddwy gêm yn erbyn Awstria a’r Wcrain i recordio dros 70,000 o leisiau’r Wal Goch yn cyd-ganu gyda Dafydd Iwan wrth i Gymru greu hanes a mynd drwodd i Gwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958. Mae’r recordiad hefyd yn cynnwys lleisiau carfan Cymru wrth iddyn nhw ganu’n llawn angerdd gyda Dafydd Iwan ar y cae wedi’r fuddugoliaeth dros Wcrain – a sicrhawyd drwy gic-rydd Gareth Bale.

Recordiwyd ‘Yma o Hyd’ yn wreiddiol gan Dafydd Iwan ac Ar Log yn 1983 fel cân herfeiddiol i ddathlu goroesiad yr iaith Gymraeg a Chymru er gwaetha’r holl elfennau yn eu herbyn. Mae’n dathlu goroesiad un o ieithoedd hynaf y byd. Mae’r gân bellach yn gyfystyr â llwyddiannau diweddar Timoedd Cenedlaethol Cymru, a bu Dafydd Iwan yng nghwmni’r ddau dîm – y merched a’r dynion – i egluro arwyddocâd hanesyddol y geiriau.

Wrth gyflwyno’r recordiad newydd, dywed Dafydd: “Tyfodd ‘Yma o Hyd’ i fod yn fath o slogan cenedlaethol, a bellach mae’r gân a roddodd fodolaeth newydd iddo yn anthem swyddogol y Tîm Cenedlaethol ar gyfer Cwpan y Byd”. “Mae’n freuddwyd amhosib wedi dod yn wir, ac y mae sain rhyfeddol y Wal Goch ar y trac newydd yn gyffrous ac ysbrydoledig. Mae’r fersiwn yma o Yma o Hyd yn cofnodi achlysur arbennig iawn yn hanes Cymru, pan wnaeth angerdd lleisiau gwych y cefnogwyr helpu Cymru i gyrraedd Cwpan y Byd. “Ni fydd gan unrhyw genedl arall ddim tebyg i hyn i ysbrydoli eu tîm ar y llwyfan mwyaf yn y byd. Felly, c’mon Cymru, dewch inni ddangos i’r byd ein bod ni yma!”

Bydd y fideo swyddogol i fynd gyda’r recordiad yn cael ei ryddhau ar sianelau digidol Gymdeithas Bêl-droed Cymru ar Dachwedd 7fed. Yr un pryd, bydd Sain yn rhyddhau’r trac i’w ffrydio a’i lawrlwytho ar y prif blatfformau digidol. Yr wythnos ganlynol, bydd Sain yn rhyddhau fersiwn ar CD a fydd hefyd yn cynnwys recordiad o’r Wal Goch yn canu Hen Wlad fy Nhadau, ac a fydd ar gael mewn siopau ac i’w archebu (pris manwerthu £2.99) drwy www.sainwales.com, gydag unrhyw elw yn mynd tuag at adnoddau pêldroed llawr gwlad.

1 Yma o Hyd Cwpan y Byd
CÂN SWYDDOGOL CYMRU CWPAN Y BYD 2022
Dafydd Iwan, Ar Log a’r Wal Goch

2 Hen Wlad Fy Nhadau

Gweld y manylion llawn