Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Trebor Edwards

Ychydig Hedd

Ychydig Hedd

Pris arferol £29.99 GBP
Pris arferol Pris gwerthu £29.99 GBP
Sêl Gwerthu allan
Treth wedi'i chynnwys.

SKU:Sain 1260

Mae Pobl Cymru yn cymryd rhai conatorion at eu calonnau - Leia Megane, David Lloyd, Bob Roberts… y rhai prin hynny a allai gyflymu uriad y gwaed wrth gerdded ar y llwyfan, a allai beri i’r dagrau lifo â’u llais, ac a allai dynnu’r lle i lawr yn y gytgan olaf. Does neb a ŵyr yn iawn beth oedd, na beth yw, eu cyfrinach. Llais da, iw, “presenoldeb” ar lwyfan, ie, ond efallai yn fwy na dim y rhywbeth hwnnw yn eu cymeriad sy’n peri i’r gynulleidfa eu hanwylo, i uniaethu â nhw, ac i ddal ar bob nodyn a ddaw o’u genau. Mae’n amlwg bellach fod Trebor Edwards yn un o’r rhain, y ffermwr bythol-ifanc o Fetws Gwerfyl Goch gyda’i lais ariannaidd a’i wên hudol.

Profodd ei record ddiwethaf, “Un Dydd ar y Tro” y tu hwnt i bob amheuaeth for Trebor yn un o’r cantorion mwyaf poblogaidd erioed i ganu yn Gymraeg. Ac y mae’r casgliad newydd hwn o ganeuon yn sicr o ategu hynny, gan ei bod yn cynnwys rhai o ganeuon mwyaf llwyddiannus ein cyfnod, yn ogystal ag ambell i hen ffefryn fel “Cartref”, yr emyn “Saron” a’r gân a gyhoeddwyd gyntaf ar record fer ond y bu galw taer am ei chael ar record hir a chaset – “Ave Maria”. Ac efallai mai’r eitem fwyaf annisgwyl yw eitem o Gerdd Dant, a Trebor yn canu’r geiriau swynol-drist hynny “Ar Balmant y Dref”, a'r elfen arall sy’n gwneud y record hon yn wahanol yw lleisiau côr Ysgol Gyfun Llangefni, dan arweiniad Mary Jones.

Os ydych eisioes wedi prynu hon, trysorwch hi, os naddo, prynwch hi a rhedwch adre nerth eich traed - mae’r gwynfyd yn eich disgwyl.

Ochr 1

  1. Ychydig Hedd
  2. Pantyfedwen
  3. Ty a dy ddoniau
  4. Palmant y dref (Llwyn Onn)
  5. Meirionnydd
  6. Ave Maria

Ochr 2

  1. Fe fydd ti Groeso
  2. Ceidwad Byd
  3. Somebody
  4. Dagrau Hiraeth
  5. Saron
  6. Cartref
  7. Rho dy Law

 

1982

Gweld y manylion llawn