Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Tecwyn y Tractor

Tecwyn y Tractor (3)

Tecwyn y Tractor (3)

Pris arferol £4.99 GBP
Pris arferol Pris gwerthu £4.99 GBP
Sêl Gwerthu allan
Treth wedi'i chynnwys.

SKU:DVD080

Mwy o anturiaethau hoff dractor plant Cymru a'i ffrindiau yn Nhyddyn Difyr!

Tarw - Mae Tecwyn a Twm yn helpu Moi i godi arwydd i rybuddio pobl rhag mynd i gae Tudwal y Tarw. Ond a fydd Linc a Lonc, y gwersyllwyr gwirion, yn ei weld mewn pryd?

Ysgol - Un diwrnod mae Tecwyn yn mynd i'r ysgol gyda Cadi, ac mae e wrth ei fodd yn cyfri ac yn darllen. Ond sut dysgodd e wneud hyn? Rhaid adrodd stori i gael yr ateb!

Sioe Beiriannau - Pan fo Nanw a Tecwyn yn mynd i sioe hen beiriannau, mae Tecwyn wrth ei fodd yn siarad â'r peiriannau eraill, ond pam mae angen galw Tecwyn i'r Cylch Mawr adeg y gwobrwyo?

Tecwyn yn Cael Cariad - Mae angen peiriant torri gwair newydd, felly bant â Nanw a Tecwyn i chwilio am un - doedd Tecwyn ddim yn chwilio am gariad, ond pan welodd Ilid...

DEUNYDD YCHWANEGOL: 4 x JIGSO 9 DARN

 

Hyd - tua 55 munud

Iaith - Cymraeg

Lliw - Lliw Llawn

Tystysgrif - Uc.

Gweld y manylion llawn