Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Sain

Sbardun

Sbardun

Pris arferol £12.98 GBP
Pris arferol Pris gwerthu £12.98 GBP
Sêl Gwerthu allan
Treth wedi'i chynnwys.

SKU:SCD2725

Casgliad o ganeuon Alun 'Sbardun' Huws

Ym mis Rhagfyr 2014 daeth y newyddion trist am farwolaeth y cerddor a’r cyfansoddwr hoffus Alun ‘Sbardun’ Huws.  Roedd Sbardun yn aelod gwreiddiol o’r band Tebot Piws a ffurfiwyd yn y 70au a dros y degawdau mi gydweithiodd gyda nifer o artistiaid gan gyfansoddi clasuron fel Strydoedd Aberstalwm, Yr hogyn pren, Cwsg Osian, Bytholwyrdd, Dawnsio ar y dibyn a Dwi’m yn licio i enwi dim ond rhai…fel teyrnged i’r cerddor a’r cyfansoddwr mae Sain yn falch iawn o gyhoeddi’r casgliad yma.    Detholwyd y casgliad gan gwraig Sbardun, Gwenno Huws a’i gyfeillion Geraint Davies ac Emyr Huws Jones.

Dyma cyflwyniad Gwenno, gwraig Sbardun i’r casgliad:

Roeddwn yn fyfyriwr yng Ngholeg Prifysgol Caerdydd pan welais i Sbardun am y tro cyntaf ym 1974. Mi fedra i gofio pob eiliad o’r cyfarfyddiad hwnnw - y chwerthiniad heintus gwallgo a’r llygaid direidus gwallgo. A mi syrthiais dros fy mhen a nghlustiau mewn cariad yn y fan a’r lle! Roedd ei wallt yn hir a chyrliog, roedd clocsiau pren am ei draed a chap stabal melyn ar ei ben. Ac wrth gwrs roedd gitâr yn ei law.

Dyma oedd dyddiau cynhyrfus Nia Ben Aur. Roedd yn gyfnod byrlymus a chreadigol iawn ac fe ddefnydiwyd y tŷ lle roeddwn yn byw ynddo ym 1974, sef yr enwog 44 Colum Rd, fel rhyw fath o “Drop-In Centre” i gerddorion yr Opera Roc. 

Dywedwyd wrthyf fod Sbardun yn perthyn i’r Tebot Piws. Pwy?? Doedd dim sôn am y Tebot Piws yn Llanrhaeadr ym Mochnant, fy mhentref genedigol i! Mi fyddwn yn tynnu ei goes yn aml, nad oeddwn i wedi syrthio amdano oherwydd ei fod yn “celeb” cyfoethog; yn wir doedd ganddo ddim hanner coron i’w enw!

Roedd cerddoriaeth yn hollbwysig i Sbardun. Mae sôn amdano yn fachgen ifanc ym Mhenrhyndeudraeth yn creu gitâr allan o hen focs sgidiau a choes brwsh.

Roedd Penrhyn yn golygu popeth i Sbard ac er iddo symud oddi yno pan yn 18 oed a threulio bron hanner canrif yn byw ac yn gweithio yn y De, does dim dwywaith mai yn Penrhyn oedd ei galon. Mae’r gân “Strydoedd Aberstalwm” yn gofnod arbennig o’i blentyndod hapus yn Penrhyn ac yn deyrnged i’w fro, ei fagwraeth a’i genfndir gwbl Gymraeg.

Ar ôl dyddiau’r Tebot Piws, fe ymunodd â’r grŵp Ac Eraill. Mici Plwm oedd rheolwr y grŵp – un arall o Penrhyn. Mae hanesion am dripiau’r grŵp i Gernyw a Llydaw gyda Mici wrth y llyw yn chwedlonol erbyn hyn! Mi fyddai Sbard wedi hoffi dilyn gyrfa broffesiynol ym myd cerddoriaeth ond nid felly yr oedd hi i fod. Aeth i Goleg Celf Caerdydd am flwyddyn ac yna i Goleg Hyfforddi Athrawon yn Cyncoed. Mi fyddai wedi gwneud athro penigamp ond fyddai wedi bod fel adyn coll mewn cyfundrefn mor barchus! Cafodd sbel yn gweithio yn Hwyrnos Glansefin a chyfnod fel un o griw cefn llwyfan Cwmni Theatr Cymru.

Daeth Ac Eraill i ben ym 1975 ac yn yr haf hwnnw fe gafodd waith fel rheolwr llwyfan yn Theatr y Werin, Aberystwyth. Roedd wrth ei fodd pan gafodd wahoddiad i ymuno â Mynediad am Ddim, grŵp a’i wreiddiau yn Aber wrth gwrs.

Yna ym 1978 fe gafodd swydd yn Adran Blant HTV Cymru fel ymchwilydd a’r flwyddyn honno fe briododd y ddau ohonom. Roedd ein cartref cyntaf yn un o strydoedd bychain Pontcanna. Mi fydden ni’n cyfeirio at y tŷ hwnnw fel “Y tŷ efo’r chwarel” gan mai yma y penderfynodd Sbard wneud ‘feature wall’ sef tyllu yn ôl at y garreg. Mi brynodd y gêr i gyd gan gynnwys y masgiau priodol! Ond prin oedd ei sgiliau DIY yn anffodus ac fe droiodd y ‘feature wall’ i fod yn fwy o ‘fiasco’ na dim byd arall! 

Ar ddechrau’r wythdegau fe amlygodd broblemau Sbard gydag alcohol.

Ym 1986 fe gafodd driniaeth mewn Canolfan Ddibyniaeth yn Weston Super Mare ac heb unrhyw amheuaeth, y driniaeth honno an achubodd ei fywyd. Ystyriai hi’n fraint felly i ysgrifennu “Cân y Stafell Fyw” yn 2011.

Cafodd yrfa lwyddiannus fel cynhyrchydd a chyfarwyddwr teledu gyda HTV a’r BBC a chafodd gyfle i deithio i bedwar ban byd. Mae’r gân “Coedwig ar Dân” yn dystiolaeth o hyn, deilliodd “Gadael Tupelo” o’i drip i Graceland efo’i ffrind mynwesol Emyr Huws Jones a roedd llawer o deithio ynghlwm â’r ffilm “Llythyrau Elis Williams” a gydgyfansoddodd gydag Ems wrth gwrs.

Roedd yr ysfa i greu yn ran annatod o gyfansoddiad Sbard. Roedd yn artistig o’i gorun i’w sawdl a chanddo lygad arbennig i droi gwrthrych cyffredin yn rywbeth unigryw - boed hynny gyda phensil, neu baent neu gamera.

Ar ôl iddo ymddeol yn 2002 fe ddechreuodd gyfansoddi cerddoriaeth o ddifrif.

Yn aml, mi fyddai ei waith yn adlewyrchu ei gymeriad - y dwys a’r doniol, ond hefyd ei ochr sensitif a theimladwy. Roedd yn rhwystredig nad oedd ganddo lais canu da ei hun ond diolch i’r drefn fod ganddo lu o gyfeillion fedrai ganu a dehongli ei waith yn berffaith. Credai Sbard yn gryf fod cerddoriaeth yn bwer grymus iawn gyda’r gallu i chwalu ffiniau a thynnu bobl ynghyd.

Heddiw, rydw innau yn diolch am rym cerddoriaeth. Mae’r ffrindiau a wnaeth y ddau ohonom drwy gyfrwng cerddoriaeth yn ôl yn y 70au wedi tyfu dros y blynyddoedd i fod yn ffrindiau oes - diolch amdanynt. Diolch hefyd i’r llu cyfeillion ym mhell ac agos sydd wedi fy nghynnal i ers i Sbard fynd - maen nhw’n gwybod pwy ydyn nhw - a maen nhw’n amhrisiadwy. Diolch hefyd i Iwan, Menna, Mair, Huw, Siôn, Jenni - ac Idris Peris bach - fy nheulu annwyl, am eu gofal, eu cefnogaeth a’u caredigrwydd.

Nid oedd Sbardun yn sant o bell ffordd, mi wn i hynny yn well na neb - ond roedd yn bopeth i mi a mae’n gadael bwlch anfesuradwy ar ei ôl. Mae’n gadael hefyd trysorfa o atgofion a thrysorfa o gerddoriaeth.

A thra pery’r iaith Gymraeg, fe fydd Sbard fyw.

                                                                                                                              Gwenno Huws

(Diolch o waelod calon i Geraint Davies ac Emyr Huws Jones am fod yn gymaint o gefn imi wrth geisio crynhoi casgliad o ganeuon Sbard ar gyfer y CDs yma).

Traciau -

CD1 

1.Strydoedd Aberstalwm (BRYN FÔN)
2.Llanfihangel (TEBOT PIWS)
3.Yr Hogyn Pren (TEBOT PIWS)
4.Tyrd i Ffwrdd(TEBOT PIWS)
5.Cwsg Osian (SIDAN)
6.Mae'r Werin yn Fyw(AC ERAILL)
7.Bytholwyrdd (TECWYN IFAN)
8.Dwi'm yn Licio (SOBIN A'R SMAELIAID)         
9.Ffrindiau'r Bore (LINDA GRIFFITHS)
10.Gwaelod y Botel Win (IONA AC ANDY)
11.Coedwig ar Dan (BRYN FÔN)
12.Fy Nghan i ti (LINDA GRIFFITHS)
13.Gadael Tupelo (JOHN AC ALUN)
14.Dawnsio ar y Dibyn (BRYN FÔN)
15.Dyddiau (LINDA GRIFFITHS)
16.Seren y Cymoedd (BRIGYN)
17.Hiraeth am y Glaw (GWILYM MORUS)

CD2

1.Haf Bach Mihangel (SIÂN JAMES A WYN PEARSON)
2.Haf Mihangel (SIONED MAIR)
3.Y Ffarm (BRYN FÔN)
4.Cân y Gân (LINDA GRIFFITHS)
5.Tre' Porthmadog (BRYN FÔN)
6.Paid a Mynd i'r Nos Heb Ofyn Pam (BRIGYN)
7.Crac (TEBOT PIWS)
8.Seren Wib (BRYN FÔN)
9.Y Ffrodd (IONA AC ANDY)
10.Cattlegrid Du (BRYN FÔN)
11.Coliseum (CASI WYN) 
12.Wedi Mynd? (TEBOT PIWS)
13.Becci'n Chwarae'r 'Blues' (HEATHER JONES)
14.Ar y Mynydd (TEBOT PIWS)
15.Neb yn Cymharu (BRYN FÔN) 
16.Strydoedd Aberstalwm (RICH ROBERTS)
17.Cân y 'Stafell Fyw (ARTISTIAID AMRYWIOL)
Gweld y manylion llawn