Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Kizzy Crawford

Rhydd

Rhydd

Pris arferol £12.98 GBP
Pris arferol Pris gwerthu £12.98 GBP
Sêl Gwerthu allan
Treth wedi'i chynnwys.

SKU:SCD2839

Dyma ail albym unigol Kizzy Crawford, y cyntaf ganddi yn yr iaith Gymraeg a’r cyntaf ar label Sain. Wedi dod i’r amlwg rai blynyddoedd yn ôl fel talent cerddorol ifanc, ffres a rhyfeddol o soffistigedig, mae Kizzy, erbyn hyn, yn un o gerddorion cyfoes mwyaf blaengar ac amlwg ei chenhedlaeth.

Mae ‘Rhydd’ yn albym hynod o bersonol ar fwy nag un lefel. Recordiwyd, cynhyrchwyd a chymysgwyd yr albym gan Kizzy yn ei stiwdio gartref a hi hefyd sy’n chwarae’r holl offerynnau ar yr albym. Mae’r gymysgedd o ganeuon, rhai a gyfansoddwyd ganddi rai blynyddoedd yn ôl ac eraill yn ganeuon mwy diweddar, yn adlewyrchu siwrnai Kizzy o iachâd a thyfu ac yn myfyrio ar y profiad o ddod i adnabod a derbyn ei hunan. Wedi sawl profiad anodd ar hyd y blynyddoedd mae ysgrifennu a chyfansoddi yn fodd i gyfathrebu, i rannu, i wella ac i ffynnu, ac, yn y pen draw, yn allwedd i ganfod y rhyddid sy’n hanfodol i dyfu a pharhau. Drwy’r cyfuniad unigryw yn y Gymraeg o jazz enaid-gwerin, dyma albym sy’n ein tywys ar daith ddidwyll, felfedaidd a chyffrous i fyd lle nad oes ffiniau na rhwystrau.

Yn lleisiol, yn offerynnol ac yn eiriol mae yma arbrofi parhaus a’r rhythmau a’r alawon yn ymdoddi i’w gilydd gan roi balm gogleisiol i’r enaid a phrocio ein meddylfryd saff yr un pryd.

Wedi perfformio’n helaeth yng Nghymru a thu hwnt, mewn gwyliau fel y Cambridge Folk Festival, Cheltenham Jazz, Gwyl Jazz Llundain, Womex, Celtic Connections, Gwyl y Gelli, Sŵn, Lorient, a’r Prince Edward Island Festival, Canada, bu Kizzy hefyd yn westai gwadd gyda Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ac yn cefnogi Gruff Rhys. Yn artist aeddfed ac eang ei gorwelion cerddorol mae wedi anadlu bywyd newydd i’r sîn yma yng Nghymru ers sawl blwyddyn a bydd yr albym hwn yn sicr o gadarnhau bod Kizzy, yng ngeiriau Huw Stephens, yn “wir dalent”.

1

1 Deifio

2 70 milltir yr awr

3 Breuddwydion

4 Fy ngelyn

5 Sgleinio

6 Deall

7 Llwch angen ei glirio

8 Dal yn dynn

9 Rhydd

10 Fy ngolau

11 Sbio

12 Enquanto ha vida, ha esperanca

13 Pwy dwi eisiau bod

Year
Gweld y manylion llawn