Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Brecon Male Choir

Côr Meibion Aberhonddu-Lleisiau'r Bannau

Côr Meibion Aberhonddu-Lleisiau'r Bannau

Pris arferol £12.98 GBP
Pris arferol Pris gwerthu £12.98 GBP
Sêl Gwerthu allan
Treth wedi'i chynnwys.

SKU:SCD2638

Mae Lynnette Thomas wedi bod yn arwain y côr ers 17 mlynedd, a chyn hynny bu’n gyfeilydd am 13 mlynedd. Yn enedigol o Lanymddyfri, mae’n brifathrawes ar Ysgol Pontsenni, ac y mae’n mwynhau’r sialens o ddysgu darnau newydd i’r côr afieithus hwn.
Gŵr ifanc lleol yw’r pianydd Christopher Langworthy sy’n bwriadu astudio cerddoriaeth yn y Brifysgol a gwneud gyrfa iddo’i hun yn y maes; mae hefyd yn chwarae’r baswˆn gyda nifer o grwpiau lleol.
Daw Lynne Bryer o Langadog yn wreiddiol, a bu’n astudio’r llais yng Ngholeg Cerdd Cymru yng Nghaerdydd gyda Jeanette Massocchi, lle’r enillodd wobr Kodaly. Mae’n byw yn Llangors, ac yn Brif Swyddog Ieuenctid gyda Chyngor Powys, yn ogystal â chantores led-broffesiynol. Bu Michael Hodgson yn organydd mewn sawl eglwys cyn cael ei ordeinio fel gweinidog ei hun yn 1987, ac mae’n aelod brwd o’r côr yn ogystal â gweithredu fel cyfeilydd pan fydd angen.

  1. Molwch Yr Arglwydd
  2. Amazing Grace
  3. African Trilogy
  4. Danny Boy
  5. Ai Am Fod Haul Yn Machlud
  6. Buddugoliaeth
  7. I Can’t Help Falling In Love
  8. Y Darlun
  9. An American Trilogy
  10. Pan Fo’r Nos Yn Hi
  11. One
  12. Hafan Gobaith
  13. Bring Him Home
  14. Cadwyn O Emyn-Donau Cymreig
  15. Adiemus
  16. Ysbryd Y Nos
  17. Hen Wlad Fy Nhadau
Year
Gweld y manylion llawn