Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Corau Meibion Cymry Llundain

Emynau Gŵyl Corau Meibion Cymry Llundain o Neuadd Frenhinol Albert

Emynau Gŵyl Corau Meibion Cymry Llundain o Neuadd Frenhinol Albert

Pris arferol £12.98 GBP
Pris arferol Pris gwerthu £12.98 GBP
Sêl Gwerthu allan
Treth wedi'i chynnwys.

SKU:SCD 2831

Hanes Gŵyl Corau Meibion Cymry Llundain

Dechreuadau Gŵyl Corau Meibion Cymry Llundain yn Neuadd Frenhinol Albert.
Cynhaliwyd yr Ŵyl gyntaf ar ddydd Sadwrn, y 25ain o Hydref, 1969, o dan yr enw “A Festival of 1000 Welsh Voices”. Mae llawer wedi holi sut y mentrodd Côr Meibion Cymry Llundain drefnu digwyddiad o’r fath heb lawer o sicrwydd a does neb yn hollol siŵr pwy awgrymodd y fath beth! Beth bynnag am hynny bu un gŵr yn arbennig yn ganolog yn y trefnu, sef Elwyn Roberts, Cadeirydd y côr ar y pryd, ac iddo ef mae’r diolch am lwyddiant y bedair gŵyl gyntaf. Mae’n rhaid cofio hefyd am Ian Young, gyrrwr tacsi ac un o faswyr y côr, gan mai ef a dalodd y blaendal oedd ei angen wrth archebu Neuadd Frenhinol Albert!

Datblygiad llwyddiannus yr Ŵyl
Ar wahân i Gôr Meibion Cymry Llundain, roedd 11 o gorau meibion eraill yn perfformio yn yr Ŵyl gyntaf a phob un o dde neu o dde-orllewin Cymru. Doedd dim rhaid poeni am lwyddiant y fenter gan i’r tocynnau i gyd werthu mewn dim, a dyma fu’r hanes ym mhob un o’r Gwyliau hyd heddiw. Cynhaliwyd yr ail Ŵyl yn Hydref 1970 gyda 17 o gorau yn cymryd rhan y tro yma, y mwyafrif o ogledd Cymru. Penderfynwyd bryd hynny i gynnal yr Ŵyl bob dwy flynedd, arfer sydd wedi parhau hyd y chweched Gŵyl ar hugain, yn 2018. “1000 Voices Festival” oedd enw gwreiddiol yr Ŵyl ond gyda newidiadau a arweiniodd at gyfyngu ar le yn Neuadd Albert newidiwyd yr enw i Gŵyl Corau Meibion Cymry Llundain / The London Welsh Festival of Male Choirs

Rhan yr Ŵyl yn datblygu repertoire corau meibion ac yn hybu canu Cymraeg tu hwnt i Gymru.
Wedi 26 o wyliau mae 128 o gorau meibion amrywiol wedi cymryd rhan ac mae’r Ŵyl yn denu corau newydd o hyd a llawer o’r rhain yn dod o’r tu hwnt i Gymru. O’r cyfanswm o 128 o gorau, mae 71 o’r rheiny yn gorau o Gymru, 25 o Loegr a’r Alban a 22 o dramor. O ran cerddoriaeth yr Ŵyl, mae 230 o ddarnau gwahanol wedi eu canu dros y blynyddoedd – 78 ohonynt yn Gymraeg (34%) a 152 yn Saesneg neu mewn ieithoedd eraill (Saesneg yn bennaf). Mae’r Ŵyl yn falch o fod wedi hybu canu corawl Cymraeg yma yng Nghymru a thros y byd ac mae wedi bod yn gyfle i nifer o gorau o’r tu hwnt i Gymru i brofi’r iaith Gymraeg am y tro cyntaf.

Arweinyddion a Chyfarwyddwyr Cerddorol yr Ŵyl
Mae wyth o arweinyddion gwahanol wedi bod, a thri ohonynt yn Gyfarwyddwyr Cerddorol Côr Meibion Cymry Llundain ar y pryd – John Peleg Williams, Haydn James ac Edward-Rhys Harry. Yr arweinyddion gwadd oedd Roy Bohana, Noel Davies (English National Opera), Noel Davies (Pontarddulais), Eifion Thomas ac Alwyn Humphreys. O’r Gwyliau a recordiwyd gan Sain, arweiniwyd 4 gan Edward-Rhys Harry (2012, 2014, 2016 a 2018), tri gan Haydn James (1996, 2006 a 2008) a dwy gan Alwyn Humphreys (2004 a 2010).
Unawdwyr yr Ŵyl
Mae llawer o unawdwyr byd enwog wedi canu yn yr Ŵyl e.e. Rebecca Evans, Wynford Evans, Wynne Evans, Jason Howard, Anne Howells, Gwyn Hughes Jones, Dafydd Iwan, Leah-Marian Jones, Rhys Meirion, Dennis O’Neill, Harry Secombe ac Elizabeth Vaughan. Yn ddiweddar mae’r Ŵyl wedi rhoi llwyfan a chyfle i nifer o artistiaid ifanc o Gymru, e.e Eirlys Myfanwy Davies, Gwawr Edwards, Llio Evans, Trystan Llŷr Griffiths, John Ieuan Jones, Meilir Jones, Rhodri Prys Jones, Rhiannon Llewellyn, Jessica Robinson, Susannah Tudor-Thomas a Fflur Wyn. Mae nifer o unawdwyr o blith Côr Meibion Cymry Llundain hefyd wedi gwneud cyfraniad amlwg, yn enwedig felly Geraint Lewis, Iorwerth Pritchard a David Williams.

CD 1

1) Arwelfa (Arglwydd gad i’m dawel orffwys)

2) Blaenwern (Love divine all loves excelling/Dyma gariad fel y moroedd)

3) Bro Aber

4) Bryn Myrddin (Mawr oedd Crist yn Nhragwyddoldeb) 

5) Bryn Myrddin (Mawr oedd Crist yn Nhragwyddoldeb)

6) Buddugoliaeth (Yn Eden cofiaf hynny fyth)

7) Builth (Rhagluniaeth mawr y Nef)

8) Cylch o Emyn-Donau (Builth/Trewen/Blaenwern)

9) Calon Lân (Nid wy’n gofyn bywyd moethus)

10) Calon Lân (Nid wy’n gofyn bywyd moethus)

11) Crug-y-bar (Mae ffrydiau ngorfoledd yn tarddu)

12) Cwm Rhondda (Guide me o thou great Jehova/Wele'n sefyll rhwng y myrtwydd)

13) Y Darlun (Dwy law yn erfyn)

14) Deep Harmony (O Iesu mawr rho d'anian bur)

15) Deus Salutis / Llef (O Iesu mawr rho d'anian bur)

16) Diadem (Cyduned y Nefolaidd Gor)

17) Diolch i’r Iôr

CD 2

1) Gwahoddiad (Mi glywaf dyner lais)

2) Cadwyn o Emyn-Donau Cymreig (Joanna/Crugybar/Ebenezer)

3) Llanfair (Gwyn a gwridog hawddgar iawn)           

4) Llwyn Owen (Dyma Gariad fel y Moroedd)

5) Mae D’Eisiau Di Bob Awr /Tui Egeo

6) Moab (Ar lan Iorddonen ddofn)

7) Morte Criste (Pan syllwyf ar yr hynod groes)

8) Nazareth (Dros bechadur buost farw)

9) Pantyfedwen (Tydi a wnaeth y wyrth)

10) Cadwyn o Emynau Cymraeg (Price/Ellers/In Memoriam) 

11 Rachie (I bob un sy'n ffyddlon)

12) Rhyd-Y-Groes 

13) Rhys (Rho im yr hedd)

14) Sanctus (Glan geriwbiad a seraffiaid)

15) Sarah (Mi glywaf dyner lais)        

16) Tydi a Roddaist

17) Hen Wlad Fy Nhadau

Gweld y manylion llawn