Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Côr Meibion Cwmbach

Etifeddiaeth (1921-2021)

Etifeddiaeth (1921-2021)

Pris arferol £12.98 GBP
Pris arferol Pris gwerthu £12.98 GBP
Sêl Gwerthu allan
Treth wedi'i chynnwys.

SKU:SCD 2820

Cwm Cynon yw cartref Côr Meibion Cwmbach, ac ym mhentref Cwmbach ar gyrion Aberdâr y ffurfiwyd y côr ar y 10fed o Fehefin, 1921. Dros y 100 mlynedd diwethaf bu’r côr yn ganolog ym mywyd diwylliannol yr ardal gan gyfoethogi a chynnal y traddodiad cerddorol yn y rhan hon o Gymru. O’r cychwyn cyntaf bu’r côr yn llwyddiannus wrth gystadlu, a thros y blynyddoedd daeth nifer o brif wobrau’r Eisteddfod Genedlaethol i’w ran a hefyd y wobr gyntaf deirgwaith yn olynol yn Eisteddfod Glowyr De Cymru yn y 1960au. Perfformiodd y côr yn nifer o neuaddau cyngerdd mwyaf blaenllaw Prydain gan rannu llwyfan gydag enwogion megis Syr Geraint Evans, Owain Arwel Hughes, Stuart Burrows, Harry Secombe a Paul Robeson a theithiodd y côr yn helaeth hefyd gan berfformio dramor yn Ewrop, Canada, America a De Affrica. Mae sawl casgliad o ganeuon wedi eu rhyddhau ar record a CD a bu sawl perfformiad radio a theledu dros y blynyddoedd. Wrth ddathlu cyrraedd y garreg filltir nodedig hon yn ei hanes ac wrth edrych yn ôl ar lwyddiannau a chyfraniad y côr y gobaith yw y bydd y 100 mlynedd nesaf hefyd yn adleisio gweithgaredd a bwrlwm cerddorol y gorffennol.

Traciau -

01. Comrades in Arms

02. Aus Der Traube

03. Si Hei Lwli 'Mabi

04. Conspirator's Chorus (Rigletto)

05. Croen y Ddafad Felen

06. Diolch i'r Ior

07. O Na Byddai'n Haf o Hyd

08. Bryn Myrddin ('Mawr oedd Crist yn Nhragwyddoldeb)

09. Softly as I Leave You

10. Speed your Journey (Nabucco)

11. Myfanwy

12. Laudamus (Bryn Calfaria)

13. Bui Doi (Miss Saigon)

14. I'se Weary of Waiting

15. Gwahoddiad

16. Kalinka

17. Anthem

18. Benedictus

19. Hallelujah

20. Tell My Father (The Civil War)

21. Sarah (Mi glywaf dyner Lais)

Gweld y manylion llawn