Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Annette Bryn Parri

Fi fydd yn gafael yn dy law

Fi fydd yn gafael yn dy law

Pris arferol £12.98 GBP
Pris arferol Pris gwerthu £12.98 GBP
Sêl Gwerthu allan
Treth wedi'i chynnwys.

SKU:SCD 2840

Mae hwn yn gasgliad arbennig iawn sy’n dod a llawer o linynnau at ei gilydd. Yn ystod y clo mawr, gwelsom gymunedau drwy Gymru yn ymateb mewn ffyrdd creadigol i’r argyfwng, ac un o’r

pethau a ddigwyddodd yn Llanuwchllyn oedd ymgynnull i ganu emynau ar y stryd o dan arweiniad y gantores opera Mary Lloyd Davies, a thystia llawer i’r fendith a’r hwb a gawsant yn y sesiynau anffurfiol hynny.
Ar yr un pryd, roedd y pianydd dalentog o Ddeiniolen Annette Bryn Parri yn gofalu am ei gŵr Gwyn yn ei waeledd, ac arweiniodd y profiad hwnnw i Annette gyfansoddi can arbennig iawn i Gwyn. Pan alwodd Mary i’w gweld yn Neiniolen, apeliodd y gan ati ar unwaith, ac fe’i recordiwyd gydag Annette wrth gwrs yn cyfeilio. Aeth Mary ati wedyn i greu fersiwn yn Saesneg, ac fei gwahoddwyd gan Sain i recordior ddwy fersiwn yn y Stiwdio.

Ychwanegwyd hoff emynau Mary at gan Annette, ac rwy’n siwr y cytunwch fod yma gasgliad sy’n wirioneddol ysbrydoledig, yn gofnod o ysbryd cymunedol cyfnod y clo ar ei orau, yn ogystal a mynegiant o gariad dwfn Annette a Gwyn. Yn wir, rwy’n proffwydo y daw’r gân Fi fydd yn gafael

yn dy law yn ffefryn gan gantorion Cymru i’r dyfodol.

Cyflwynir y casgliad i Gwyn, i chwiorydd Mary, Ann a Llywela, ac ir holl neiniau a theidiau na chafodd weld eu hwyrion a’u hwyresau dros gyfnod anodd y clo.

Dafydd Iwan

 

  1. Fi fydd yn gafael yn dy law
  2. Penlan (O iachawdwriaeth gadarn)
  3. Gareth (Wele wrth y drws yn curo)
  4. Beethoven (Trwy ddirgel ffyrdd mae’r uchel Iôr)
  5. Dusseldorf (Mae fy nghalon am ehedeg)
  6. Theodora (Gwawr wedi hirnos,cân wedi loes)
  7. Sandon (Lead, kindly Light, amid the encircling gloom)
  8. Lausanne (Iesu, Iesu,’rwyt ti’n ddigon)
  9. Maes-Gwyn (O fendigaid Geidwad clyw fy egwan gri)
  10. Berwyn (Tyrd atom ni, O Grëwr pob goleuni)
  11. Coedmor (Pan oedd Iesu dan yr hoelion)
  12. Aberystwyth (Jesu, lover of my soul)
  13. Price (I Galfaria trof fy wyneb)
  14. Emyn Hwyrol (Tangnefedd - Nefol Dad, mae eto’n nosi)
  15. Trewen (Mi wn fod fy Mhrynwr yn fyw)
  16. To take you by the hand 
Gweld y manylion llawn