Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Trebor Edwards

Dyma fy Nghân

Dyma fy Nghân

Pris arferol £29.99 GBP
Pris arferol Pris gwerthu £29.99 GBP
Sêl Gwerthu allan
Treth wedi'i chynnwys.

SKU:Sain 1048

Bu galw mawr ers tro bellach am gael record hir o Trebor Edwards, wedi llwyddiant arbennig ei ddwy record gyntaf. Dyma lais sydd wedi denu calon miloedd o Gymry o bob cwr o’r wlad, a thu hwnt i Glawdd Offa. Ffermwr yw Trebor Edwards wrth ei waith, yn treulio’i ddyddiau ar fryniau ardal Betws Gwerfyl Goch, ger Corwen. Gyda’r nosau, try’r ffermwr yn ganwr i ddifyrru’r tyrfaoedd gyda’i lais tenor clir, a’i arddull naturiol, ddi-ymdrech.

O’i hir brofiad ar lwyfan, gŵyr Trebor erbyn hyn pa ganeuon sy’n apelio at gnulleidfaoedd o gymru, a cheir dewis da ohonynt ar y record hon, gan gynnwys nifer o hen ffefrynnau fel “Yr Hen Rebel”, “Cof am y cyfiawn Iesu” a’r “Holy City”. Ceir yma hefyd nifer o ganeuon newydd danlli o waith Manon Easter Lewis, un arall o gerddorion ifainc Edeyrnion.

Mae’n bleser gennym gyflwyno’r casgliad hwn o ganeuon gan un o’r artistiaid mwyaf poblogaidd sy’n canu nyg Nghymru heddiw.

Gwyddom y cewch flas arni, - ac awydd i glywed mwy eto”

Ochr 1

  1. Clod i walia
  2. ‘Rhen Shep
  3. Tyrd awn i hwylio
  4. Rho im dy wên
  5. The Holy City
  6. Yr Hen rebel

Ochr 2

  1. Côf am y cyfiawn Iesu
  2. Cwmwl Haf
  3. Beibl Mam
  4. Toriad Gwawr
  5. Cymru
  6. Search, Dyma fy nghân

 

1976

Gweld y manylion llawn