Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Dafydd Iwan

Dafydd Iwan - Bywyd mewn lluniau

Dafydd Iwan - Bywyd mewn lluniau

Pris arferol £5.00 GBP
Pris arferol Pris gwerthu £5.00 GBP
Sêl Gwerthu allan
Treth wedi'i chynnwys.

SKU:Gomer

Dafydd Iwan: un dyn, cymaint o ffyrdd o'i nabod - canwr ysbrydoledig; chwyldroadwr penboeth; dyn busnes blaengar; gwleidydd cyfrifol; mab y Mans; brawd a gŵr a thad. Yn y gyfrol bersonol a dadlennol hon, cawn gipolwg ar bob agwedd ar fywyd a hanes un o wir eiconau Cymru heddiw, ac un sydd wedi rhoi cymaint i'w wlad a'i dilwylliant.

Dyma gasliad unigryw sy'n gyfuniad o luniau o albwm personol y teulu a gwaith rhai o ffotograffwyr dogfennol gorau Cymru'r ugeinfed ganrif, gan gynnwys Geoff Charles, Marian Delyth, aymon Edwards a Gerallt Llewelyn. Mae yma luniau du a gwyn o'r 1960au ochr yn ochr â lluniau lliw  cyfoes; rhai lluniau sy'n gofnodion o ddigwyddiadau mawr hanes diweddar ein gwlad, a rhao lluniau o Dafydd gyda'i deulu ar achlysuron anffurfiol a phersonol.

Gweld y manylion llawn