Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Ceinciau'r Heli

Ceinciau'r Heli

Ceinciau'r Heli

Pris arferol £9.99 GBP
Pris arferol Pris gwerthu £9.99 GBP
Sêl Gwerthu allan
Treth wedi'i chynnwys.

SKU:CS127

Dyma ail gyfrol Einir o geinciau cerdd dant gwreiddiol. Cyhoeddwyd ‘Ceinciau Penrhos’ yn 2017 a bu defnydd helaeth ar yr alawon. A hithau’n enw amlwg ym maes canu gyda’r tannau yma yn lleol ac yn genedlaethol braf yw cael cyhoeddi rhagor o’i halawon, a hynny ar drothwy Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd a fydd yn cael ei chynnal dafliad carreg o gartref Einir ym Mhenrhos, ger Pwllheli.

Fel y dywed Alwena Roberts, un arall o hoelion wyth y byd cerdd dant, yn y cyflwyniad i’r gyfrol: “Dyma gyfrol sy’n cynnwys 10 alaw amrywiol eu naws a’u hyd, wedi’u llunio’n grefftus gan hen law brofiadol – alawon swynol a harmonïau hyfryd. Cyfansoddwyd y rhan fwyaf o’r rhain i nodi achlysuron teuluol arbennig a dathliadau a phen blwyddi ffrindiau. Mae dwy o’r alawon yn agos iawn at galon Einir – ‘Lôn Ddiffyg’ – a gyfansoddwyd ar gyfer priodas ei merch Elain â Simon (enw cartref Simon yw Lôn Ddiffyg) ac yna genedigaeth Alys, yr wyres fach gyntaf, ym Mawrth eleni. Rwy’n sicr y bydd llawer o ddefnydd ar yr alawon hyfryd hyn. Felly, hwyl ar y ‘chwarae’ a’r gosod!!”

10 o geinciau cerdd dant -

Yr Hen Blwyf

Maes y Caerau

Gelli Lenor

Lôn Ddiffyg

Rhyd Sarn

Alys

Cwm Eidda

Graigwen

Ty'n Ffridd

Cae Sgubor

 

Gweld y manylion llawn