Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Sain

Casgliad 50 Sain

Casgliad 50 Sain

Pris arferol £12.98 GBP
Pris arferol Pris gwerthu £12.98 GBP
Sêl Gwerthu allan
Treth wedi'i chynnwys.

SKU:SCD2815

Fel rhan o ddathliadau hanner can mlynedd Sain mae’r label yn rhyddhau casgliad arbennig o 50 o ganeuon ynghyd â 4 trac bonws ar gyfer y Nadolig.
Mae’r caneuon wedi eu dethol i gynrychioli pum degawd o gerddoriaeth sydd wedi bod yn gyfeiliant ac yn drac sain i nifer o Gymry ers 1969, pan sefydlwyd y cwmni gan Dafydd Iwan, Huw Jones a Brian Morgan Edwards.
Mae’r casgliad yn cychwyn yn naturiol gyda’r gân Dwr gan Huw Jones, sef sengl gyntaf Sain a rhyddhawyd ar Hydref 9fed 1969, a hefyd yn gorffen gyda fersiwn arbennig o Dwr gan Tara Bethan a Band Pres Llareggub.

Ar Hydref 6ed trefnwyd noson arbennig yn Stiwdio Sain gyda Band Pres Llareggub, Tara Bethan a Mared Williams. Sesiwn recordio ‘byw’ oedd y noson ar gyfer EP o rhai o glasuron catalog Sain wedi eu trefnu’n arbennig i’r band a Tara a Mared gan Owain Roberts. Cafodd y sesiwn ei ffrydio’n fyw hefyd ar sianel YouTube Recordiau Sain gan griw Antena, ac mae’r fideo o’r noson i’w weld ar YouTube/Recordiau Sain

Y pedair cân sydd wedi eu cynnwys ar gasgliad Sain 50 fel traciau bonws yw; fersiwn gwbl hudolus o Chwarae Dy Gêm gan Mared Williams a Band Pres Llanreggub, Chwarae’n Troi’n Chwerw ac Yma o Hyd – sef fersiynau offerynnol gan y band a fersiwn engïol a chyfoes o Dwr gan Tara Bethan a Band Pres Llareggub.

Hefyd fel rhan o’r dathliadau mae Sain, gyda chymorth gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, wedi creu arddangosfa Sain 50, fydd bellach i’w weld yn Storiel, Bangor o ganol Ionawr ymlaen, ac mae croeso i chi ddilyn blog Sain www.sain.cymru hefyd dros yr wythnosau nesaf i weld mwy o ddeunydd o’r archif – yn lluniau, dofennau, cloriau a cherddoriaeth.

CD1
1 DŴR - Huw Jones
2 VC 10  - Edward H Dafis
GITÂR YN Y TO - Maffia Mr Huws
SIGLO AR Y SIGLEN - Geraint Jarman
5 Y LLWYBR LAWR I’R DYFFRYN - Elin Fflur
YMLAEN MAE CANAAN - Steve Eaves
GOLEUADAU LLUNDAIN - Daniel Lloyd a Mr Pinc
8 TŶ AR Y MYNYDD - Maharishi
RHYWBETH O’I LE - Huw Chiswell
10 PAID A BOD OFN - Eden
11 CEIDWAD Y GOLEUDY - Bryn Fôn
12 CHWARAE’N TROI’N CHWERW - Bando
13 MAE RHYWUN WEDI DWYN FY NHRWYN - Tebot Piws
14 CWM NANT GWRTHEYRN - Ac Eraill
15 DYDDIAU DA - Hergest
16 CÂN WALTER - Meic Stevens
17 PAM FOD EIRA’N WYN? - Dafydd Iwan

CD2
CERDDED DROS Y MYNYDD - Iona ac Andy
GAFAEL YN FY LLAW  John ac Alun
CERRIG YR AFON - Iwcs a Doyle
RHO DY LAW - Rosalind a Myrddin
ANFONAF ANGEL - Rhys Meirion
YSBRYD Y GAEL - Mairi MacInness a Chôr Meibion Llangwm
7 UN DYDD AR Y TRO - Trebor Edwards
DEFAID WILLIAM MORGAN - Hogia Llandegai
WEDI COLLI RHYWBETH SY’N ANNWYL - Tony ac Aloma
10 GWINLLAN A RODDWYD -Tri Tenor Cymru
11 POKAREKARE - Timothy Evans
12 YFORY - Eirlys Parri
13 O GYMRU - Cantorion Colin Jones
14 BYD O HEDDWCH - Côr Godre’r Aran
15 HAFAN GOBAITH - Bryn Terfel
16 DASHENKA (Y SIPSIWN) - Côr Meibion Llanelli
17 SAFWN YN Y BWLCH - Hogia’r Wyddfa

CD3
NWY YN Y NEN - Eleri Llwyd
2 Y DREF WEN - Tecwyn Ifan
ADERYN LLWYD - Mary Hopkin
COLLI IAITH - Heather Jones
5 HI YW FY FFRIND - Mynediad am Ddim
6 TRÔNS DY DAD - Gwibdaith Hen Frân
SEIDR DDOE - Plethyn
8 KÂN - Calan
9 SŴN AR GARDYN POST - Bob Delyn a’r Ebillion
10 Y FWYALCHEN DDU BIGFELEN - Ar Log
11 NEI DI GANU ’NGHÂN - Gwenan Gibbard
12 TIR NA NOG - Lleuwen
13 FEL HYN ’DA NI FOD - Bwncath
14 PALMANT AUR Y MIGNEINT - Gai Toms a’r Banditos
15 Y DIEITHRYN- Geraint Løvgreen a’r Enw Da
16 ANGOR - Tudur Huws Jones

Traciau Bonws
17 CHWARAE DY GÊM - Mared Williams a Band Pres Llareggub
18 CHWARAE’N TROI’N CHWERW - Band Pres Llareggub
19 YMA O HYD - Band Pres Llareggub
20 DŴR - Tara Bethan a Band Pres Llareggub

Gweld y manylion llawn