Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Meinir Gwilym

Caneuon Tyn Yr Hendy

Caneuon Tyn Yr Hendy

Pris arferol £9.99 GBP
Pris arferol Pris gwerthu £9.99 GBP
Sêl Gwerthu allan
Treth wedi'i chynnwys.

SKU:SCD2855

Mae Sain yn falch o ryddhau pumed albym unigol Meinir Gwilym. Gyda’i gyrfa canu a recordio yn ymestyn yn ôl dros ugain mlynedd mae ei chaneuon gwreiddiol gonest ac apelgar wedi hen ennill eu plwyf a’i pherfformiadau byw niferus yn adnewyddu’r enaid ac yn cyffwrdd y galon.

Mae ‘Caneuon Tyn yr Hendy’ yn cynnwys 8 cân newydd sbon a thrac bonws, sef ei sengl ddiweddaraf, ‘Goriad’. Yn gasgliad amrywiol o ganeuon, mae dawn Meinir fel bardd a cherddor unwaith eto yn serennu a’r cyfan wedi tyfu’n naturiol dros gyfnod yn ystod eleni a’i recordio mewn cyfnod byr fis Tachwedd. “Dydw i erioed wedi recordio albym mewn cyn lleied o amser,” meddai Meinir, “tair wythnos ella o’r dechrau i’r diwedd. Mae o’n gasgliad sy’n mynd i bob man o ran arddullia cerddorol. Dwi heb guradu’r caneuon mewn unrhyw ffordd, nac ymdrechu i’w caethiwo nhw mewn bocs o ‘genre’. Ma nhw wedi cael ymddangos a thyfu sut bynnag oedd yn siwtio. Ma’ nhw’n mynd o faledi i bop nostalgic 90au, i sgrech o gân fatha ‘Chwarter i Hanner’. Gawn ni weld sut ymateb geith yr albym. Ond dwi’n diolch am y fraint o gael ei ysgrifennu.”  

Wedi ei recordio yn rhannol gartref ac hefyd mewn amrywiol leoliadau, yn cynnwys Stiwdio Sain, Stiwdio Un a Stiwdio Ofn, gyda chymorth Sam Durrant, Osian Huw Williams ac Aled Wyn Hughes, cynhyrchwyd yr albym gan Meinir ei hun a cheir chyfraniadau cerddorol gan Ceiri Humphreys ac Euron Jos (gitârs), Twm Elis a Cai Llywelyn Gruffydd (drymiau), Bob Galvin, Osian ac Aled (bas) ac Edwin Humphreys (cyrn a sax). Yn ogystal mae llais Alys Williams i’w glywed ar y trac tyner ac emosiynol ‘Yr Enfys a’r Frân’ a llais a thelyn Gwenan Gibbard ar y trac gwerinol, bywiog, ‘Rew di Ranno’. Yn ôl Meinir, “mae gwesteion arbennig yr albym yn fy ngwneud i’n emosiynol rwsut - yn rhoi eu hamser a’u talent i ganu ar y caneuon. Mae Gwenan ac Alys yn leisiau arbennig ac unigryw a dwi’n teimlo’n lwcus iawn i gyd-weithio efo nhw.”

Cyd-gyfansoddwyd y gân ‘Tân’ gan Meinir a Gwyn Roberts (Ficar), gyda llais Gwyn i’w glywed hefyd ar y trac ac mae ‘Hon yw ’Mharadwys i’ yn fersiwn newydd o gân a gyfansoddwyd gan daid Meinir, Tecwyn Gruffydd, a’i mam Sioned - cân a recordiwyd yn wreiddiol gan Sioned yn 1983 a chân sy’n rhoi darlun byw iawn o ardal nodedig eu mebyd ym Môn. Mae Sioned yn ymuno efo Meinir ar y gân yma sy’n clymu tair cenhedlaeth ynghyd yn gelfydd. 

O ddidwylledd amrwd y gân ‘Dwi’m yn Cofio’ i her ac ysbryd dyrchafol cân agoriadol yr albym, ‘Waliau’, mae Caneuon Tyn yr Hendy yn mynd â’r gwrandawr ar daith ar hyd llwybrau antur, hiraeth, serch, ansicrwydd a gobaith. Yng ngeiriau Meinir ei hun, “gobeithio y bydd hi’n taro nodyn cyfarwydd ond newydd ar yr un pryd. Mae ’na dîm gwych wedi bod yn rhan o gael yr albym ’ma’n barod – diolch iddyn nhw ac allan â hi.”  

TRACIAU:

  1. WALIAU
  2. YR ENFYS A’R FRÂN
  3. CHWARTER I HANNER
  4. TÂN
  5. DWI’M YN COFIO
  6. REW DI RANNO
  7. CHWARTER I HANNER (DEMO)
  8. HON YW ’MHARADWYS I
  9. GORIAD
Gweld y manylion llawn