Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Elin Fflur

Y Goreuon

Y Goreuon

Pris arferol £9.99 GBP
Pris arferol Pris gwerthu £9.99 GBP
Sêl Gwerthu allan
Treth wedi'i chynnwys.

SKU:SCD2614

Cyflwynwyd Elin Fflur i’r byd ar record yn y flwyddyn 2002 yn sgil y Moniars ac Arfon Wyn, ac Arfon oedd yn gyfrifol am y gân a wnaeth Elin yn enwog – “Harbwr Diogel”. Yn fuan iawn, drwy gyfrwng ei hymddangosiadau byw ac ar deledu, gwelwyd fod yma dalent newydd arbennig iawn. Nid yn unig yr oedd gan Elin Fflur bresenoldeb llwyfan anhygoel, ond yr oedd ei gallu lleisiol yn medru cwmpasu sawl math o gerddoriaeth, yn anwylo cân serch draddodiadol un munud, ac yn ein synnu â phwer soniarus ei llais y munud nesa mewn clamp o gân roc. At hyn ychwanegwch ei greddf gerddorol naturiol, ei dawn fel cyfansoddwraig a’i phersonoliaeth heulog, ac y mae gennych rysait berffaith am wledd! Mwynhewch y casgliad hwn o ddeunaw o’i chaneuon enwocaf.

Traciau -

1. Pan Ddaw'r Haul

2. Paid a Cau y Drws

3. Petha Ddim 'Run Fath

4. Ysbryd Efnisien

5. Harbwr Diogel

6. Symud Ymlaen

7. Dim Gair

8. Arfau Byw

9. Meillionen

10. Ar Lan y Môr

11. Cymer Fi, Achub Fi

12. Papillon

13. Gwên

14. Eiliad Fach

15. Mae'r Ysbryd yn Troi

16. Tybed Lle mae Hi Heno

17. Angel

18. Y Llwybr Lawr i'r Dyffryn

Gweld y manylion llawn