Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Gai Toms

BAIAIA!

BAIAIA!

Pris arferol £12.98 GBP
Pris arferol Pris gwerthu £12.98 GBP
Sêl Gwerthu allan
Treth wedi'i chynnwys.

SKU:SCD2853

Baiaia! yw 6ed albwm stiwdio Gai Toms. ‘Roedd yr albwm ddiwethaf - 'Orig' (Recordiau Sain 2019) yn ddathliad o fywyd y reslar Orig Williams (El Bandito) gyda'i ferch Tara Bethan (Tara Bandito) yn ymuno ar ambell gân. Teithwyd theatrau a neuaddau Cymru gyda sioe theatrig yng ngwir ysbryd y dyn ei hun, bu'n llwyddiant ysgubol.

Ers y clo mawr, mae Gai Toms wedi cyfansoddi dau albwm, ond Baiaia! yw'r cyntaf i'r felin. Mae'r llall - 'Y Filltir Gron' ar y silff am ychydig, er bod dwy gân - 'Pobl dda y tir' a 'Coliseum' wedi ei rhyddhau yn barod oddiar hwnnw. Rhyfedd o beth, ond dyna ni.... Baiaia!

BAIAIA!

O'r berllan beryglus, i'r melys gybolfa,

O'r agor oer i'r gofod faith,

O chwedlau rhyfeddol i'r gwirioneddol...

Baiaia!

Ar Baiaia! gwelwn/clywn Gai Toms yn ysgafnhau ‘chydig ar ei dueddiadau cysyniadiol, gan adael y caneuon fodoli ym mydysawdau bach eu hunain, er y gweadau sonig tebyg sy'n eu plethu. O'r gân agoriadol emosiynol “new wave” 'Y Berllan', i'r pop-roc chwerw felys 'Melys Gybolfa', cawn gipolygon sonig o'i feddylfryd ôl-bandemig. Mae prydferthwch 'Pen Llŷn' yn lonyddwch ac yn fyfyrdod angenrheidiol ynghanol bwrlwm yr albwn, cyn neidio'n syth i ffwnc 80'au 'Neidia' ac i arch-arwriaeth indi 'Hed, hed, hed'. Mae 'Gwlad yn ein pennau' (cân Anweledig na chafodd ei recordio) yn anthem i ddathlu positifrwydd rhyngddibyniaeth, ac yn cynnwys llais neb llai na (drum roll!) - Ceri Cunnington. Mae'r albwm yn gorffen yn bosotif mewn arddul Cure-aidd, gyda'r trac teitl - 'Baiaia!'. Ar y cyfan, casgliad o ganeuon bachog roc “neo-wave” yw Baiaia!, ond gyda naws telynegol emosiynol, ac ysbryd gwerin Gai Toms drwyddo. Mae'n anodd rhoi bys ar trac orau'r albwm, ond mae'r ail gân - 'Agorydd' yn agos ati gan fod y geiriau a'r gerddoriaeth yn asu'n berffaith.

I'r pellafoedd gyfaill, lliwiau sy'n dy ddisgwyl di

Addurna dy enaid efo straeon tanbaid, a chrysau-T

Ond, tyrd a'r haul yn ôl efo chdi

Agorydd sy'n dywyll ac oer hebddat ti

"Roeddwn isio mwy o ganeuon uwch-dempo i'r repertoire byw, felly dwi'n hapus iawn efo Baiaia! yng nghyd-destun hynny. ‘Rwyf yn gyfansoddwr profiadol bellach, ond weithia’ mae angen camu ‘nôl o'r gor-feddwl a symleiddio, ac wrth symleiddio mae gonestrwydd ac emosiwn yn treiddio'n rhwydd i'r caneuon. Ond, teimlaf mod i wedi gorfod mynd drwy'r felin i sylweddoli a gwerthfawrogi hynny. Tyfodd Baiaia! yn organig, mae caneuon fel planhigion, tydi? Hedyn y syniad, pridd y creu, wedyn dŵr a haul y band ymroddgar a phersonel stiwdio. Wrth gwrs, mae maint y potyn yn effeithio'r tyfiant, ac yn fetaffor i gyllidebau'r SRG dyddiau hyn... ond hei, llafur cariad - Baiaia!"

Ysgrifennwyd caneuon Baiaia! yn ystod haf 2022, gan fynd i STIWDIO SAIN, Llandwrog gyda'r band dros y Pasg 2023 i recordio. Gai Toms yn cynhyrchu ac Aled Wyn Hughes (Cowbois Rhos Botwnnog) yn peiriannu a chyd-gynhyrchu, ac fel brodor o Ben Llŷn mae'n ymddangos ar y bas ar y gân 'Pen Llŷn' (Trac-5). Roedd yr amserlen recordio yn eithaf tynn, ond wrth edrych yn ôl rhoddodd hynny ryw naws hwyliog i'r holl broses. Wedi recordio'r band, aeth Gai Toms a'r traciau cefndirol i STIWDIO SBENSH i recordio'r lleisiau, synths ac offerynau taro. Gyrrodd y traciau gorffenedig i STIWDIO SAIN yng ngofal dawnus Ifan Emlyn (Candelas) i gymysgu.

 1. Y Berllan

  2. Agorydd

  3. Melys Gybolfa

  4. Mwg

  5. Pen Llŷn

  6. Neidia

  7. Chwedlau yn y fflachlwch

  8. Hed, hed, hed

  9. Gwlad yn ein pennau

10. Baiaia!

Gweld y manylion llawn