Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Huw Jones, Brân & Sidan

atSAIN y 70au - Cyfrol 1

atSAIN y 70au - Cyfrol 1

Pris arferol £9.99 GBP
Pris arferol Pris gwerthu £9.99 GBP
Sêl Gwerthu allan
Treth wedi'i chynnwys.

SKU:SCD2676

Roedd y 70au yn gyfnod llawn bwrlwm i’r sin gerddoriaeth bop yng Nghymru, ac mae’r gyfrol yma, sy’n gyntaf mewn cyfres o gasgliadau o dan y teitl atSAIN, yn gyfuniad o dair o albyms mwyaf eiconic y cyfnod – Huw Jones – Adlais, Brân – Ail Ddechra a Sidan – Teulu Yncl Sam.

Yr oedd yna recordiau Cymraeg cyn y 70au wrth gwrs. Yn wir gosodwyd seiliau go gadarn yn y 40au a’r 50au cyn dechreuadau y “canu pop” yn y 60au, ond yn ystod y 70au y gwelwyd y byd recordiau Cymraeg yn dod i’w lawn dwf, yn llawn gwreiddioldeb ac amrywiaeth disglair. Ac un o nodweddion amlycaf cerddoriaeth y 70au oedd mai cerddoriaeth yr ifanc ydoedd yn anad dim arall, yn adlewyrchu asbri, dyheadau ac argyhoeddiad ieuenctid Cymru ar gyfnod cyffrous iawn yn ei hanes.

Mae’r dair albym a gynhwysir yn y pecyn hwn yn adlewyrchu tair agwedd wahanol o ganeuon y cyfnod: Huw Jones yn cyfleu cyffro gwleidyddol y 70au, Brân yn dangos sut y cartrefodd y diwylliant roc yn naturiol ddigon yn y Gymraeg, a Sidan yn cyfleu talent y genhedlaeth iau ar ei gorau.

Mae albym Huw Jones yn gasgliad o ganeuon a recordiwyd rhwng 1969 ac 1976, gan ddechrau gyda’i gân eiconig wedi Tryweryn a Chlywedog, “Dŵr”, y record a lansiodd label newydd Sain. Roedd Huw yn un o’r cantorion cyntaf i arbrofi gyda recordio aml-drac ac aml-offerynnol yn Gymraeg, a’i destunau yn tynnu ar chwedlau’r gorffennol yn ogystal â brwydrau’r presennol. Un thema gyson yn ei ganeuon oedd brwydr yr unigolyn yn erbyn y peiriant mawr, a’r gwersi y gall Cymru ddysgu o’i hanes.

Mae aelodau Brân yn cynrychioli sawl ffrwd gynhyrchiol yn hanes y canu poblogaidd, gyda’r ddau frawd Dafydd a Gwyndaf Roberts yn mynd ymlaen i sefydlu Ar Log, y gantores aml-offeryn Nest Howells yn fam i Elin Fflur, a John Gwyn yn ddiweddarach yn ei yrfa yn gynhyrchydd y rhaglen arloesol “The Tube”. Mae’r cyfuniad o gitar ysgubol John Gwyn, llais unigryw Nest a greddf gerddorol sicr y pedwar gyda’i gilydd yn creu caneuon sydd wedi cyrraedd statws cwlt yng ngolwg llawer o ddilynwyr roc Cymraeg – a hynny o sawl gwlad.

Go brin bod unrhyw griw o ferched ysgol erioed wedi creu sain mor arbennig â’r un a grewyd gan ferched Sidan. Pan fu’r diweddar George Guest yn westai ar “Desert Island Discs”, un o’r caneuon a ddewisodd oedd trac gan Sidan, gan ganmol purdeb rhyfeddol eu sain a’u cynghanedd lleisiol. Dengys yr albym a glywir yma nad lleisiau melys a diniwed yn unig mohonyn nhw, ond criw o ferched ifanc llawn asbri a hiwmor oedd yn gerddorion greddfol. Ac fel Huw Jones ac aelodau Brân, mae ymhlith Sidan hwythau gyfansoddwyr talentog yn ogystal â chantorion.

Rhowch y tri gyda’i gilydd, ac fe gewch drochfa heb ei bath o seiniau’r saithdegau, a chyfle i ail-ymweld ag un o gyfnodau mwyaf cyffrous yn hanes cerddoriaeth boblogaidd Cymru.

 

 

CD 1: Huw Jones – Adlais: Dŵr, Y Ffoadur, Mathonwy, Paid Digaloni, Adfail, Daw Dydd Y Bydd Mawr Y Rhai Bychain, Gwylliad Cochion Mawddwy, Sut Fedrwch Chi Anghofio?, Dwisio Bod Yn Sais, Gwas Bach Y Peiriant Pres, Ble’r Aeth Yr Haul?, Na, Na!

CD 2:  Brân – Ail-Ddechra: Y Ddôr Ddig, F’annwyl Un, Y Gwylwyr, Wrth Y Ffynnon, Ynys Gudd, Myfyrdod, Rhodiaf Hen Lwybrau, Mor Braf, Caledfwlch, Blodyn, Y Crëwr, Breuddwyd

CD 3:  Sidan-Teulu Yncl Sam: Helo, Y Rhwyd, Carol, Doli Glwt, Gwynt Yr Haf, Ble’r Ei Di, Dwi Ddim Isio…, Dyn Yr Eira, Paid  Deud, Gwyll, Di Enw, Canaf Gân, Yr Haf, Ar Goll, Ffarwel

Year
Gweld y manylion llawn