{"product_id":"pyroclastig","title":"Pyroclastig","description":"\u003cp class=\"MsoNormal\" align=\"center\" style=\"text-align: center;\"\u003e\u003cb style=\"mso-bidi-font-weight: normal;\"\u003e\u003cspan style=\"font-size: 14.0pt; line-height: 115%;\"\u003ePyroclastig - y band ifanc, gwahanol o Lŷn yn cyhoeddi eu EP cyntaf!\u003c\/span\u003e\u003c\/b\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp class=\"MsoNormal\" style=\"text-align: justify;\"\u003eFfurfiodd y band ym mis Tachwedd 2015 ar ôl i’r 5 aelod – Geth, Llŷr, Kieran, Hawys a Gruff gyfarfod yng Ngholeg Meirion Dwyfor, Pwllheli a perfformiwyd eu gig cyntaf ym mis Ionawr 2016 gan gefnogi Swnami yng Nghlwb Rygbi Pwllheli.\u003cspan style=\"mso-spacerun: yes;\"\u003e\u0026nbsp; \u003c\/span\u003eYn yr un flwyddyn daeth y band yn drydydd yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau. Recordiwyd yr EP ym mis Hydref 2016 gydag Osian ac Ifan Candelas yn stiwdio’r Drwm, Llanllyfni.\u003cspan style=\"mso-spacerun: yes;\"\u003e\u0026nbsp; \u003c\/span\u003eDros yr haf eleni bu’r band yn perfformio yn yr Eisteddfod ac yn rhan o’r gig a werthodd allan yn y Bala gyda Yws Gwynedd ac Yr Eira - bu’r band hefyd yn perfformio yng Nghastell Deudraeth fel rhan o ddathliadau Gwyl Rhif 6. Mae gwaith celf yr EP gan yr artist Tem Casey.\u003c\/p\u003e\n\u003col\u003e\n\u003cli class=\"MsoNormal\" style=\"text-align: justify;\"\u003e\u0026nbsp; \u0026nbsp;Cwyr\u0026nbsp; \u0026nbsp;\u003c\/li\u003e\n\u003cli class=\"MsoNormal\" style=\"text-align: justify;\"\u003e\u0026nbsp; \u0026nbsp;Gadael Fynd\u0026nbsp; \u0026nbsp;\u003c\/li\u003e\n\u003cli class=\"MsoNormal\" style=\"text-align: justify;\"\u003e\u0026nbsp; \u0026nbsp;Cyfeiriad y Mŵg\u003c\/li\u003e\n\u003cli class=\"MsoNormal\" style=\"text-align: justify;\"\u003e\u0026nbsp; \u0026nbsp;‘Run Un\u0026nbsp; \u0026nbsp;\u003c\/li\u003e\n\u003cli class=\"MsoNormal\" style=\"text-align: justify;\"\u003e\u0026nbsp; \u0026nbsp;Dwytha’\u003c\/li\u003e\n\u003c\/ol\u003e\n\u003cp\u003eLlŷr sy’n chwarae’r sax. \u0026nbsp;Mae’n byw ym Mwlchtocyn, Pen Llŷn a bu’n ddisgybl yn Ysgol Botwnnog cyn mynd i Goleg Meirion Dwyfor, Pwllheli. \u0026nbsp;Yn yr wythnosau nesaf mae’n symud i Gaerdydd i astudio Cerddoriaeth Boblogaidd yn yr Atrium yng Nghaerdydd. \u0026nbsp;Mae’n hoff o gerddoriaeth jazz yn ogystal â bandiau trymach fel Royal Blood. \u0026nbsp;\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eKieran sydd ar yr allweddellau ac mae’n dod o Bwllheli. Mae ei chwaeth gerddorol yn reit amrywiol ond yn hoff iawn o'r band The 1975. Bydd yn astudio’r Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd o fis Medi. \u0026nbsp;\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eGethin o Dremadog sy’n chwarae’r gitâr. Roedd Gethin a Gruff yn ysgol Eifionydd efo'i gilydd. \u0026nbsp; Mae'n aelod o fand pres yr Oakeley hefyd ac ar fin symud i Aberystwyth i astudio Bioleg yn y Brifysgol yno.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eDaw Hawys o Aberdaron ac mae’n chwarae’r bas ac yn canu. Mynychodd Ysgol Botwnnog. Hawys yw prif gyfansoddwraig y grŵp, a hithau hefyd sy’n ysgrifennu y geiriau i’r rhan fwyaf o'r caneuon . \u0026nbsp;Mae’n hoff o chwarae’r piano a’r delyn hefyd. \u0026nbsp;\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eGruff yw drymiwr y grŵp ac mae’n byw yng Ngarndolbenmaen. Chwaeth gerddorol amrywiol gan Gruff hefyd ond yn hoff o jazz ac yn ddiweddar wedi bod yn gwrando ar grwpiau fel Oasis a The Smiths. \u0026nbsp;Bydd Gruff hefyd yn mynd i Gaerdydd i astudio Perfformio Cerddoriaeth yn yr Atrium.\u0026nbsp; \u003cspan style=\"text-align: justify; font-size: 0.875rem;\"\u003e\u0026nbsp;\u003c\/span\u003e\u003c\/p\u003e","brand":"Pyroclastig","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":57616310665591,"sku":"RASAL CD042","price":3.25,"currency_code":"EUR","in_stock":false}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0679\/4500\/5350\/files\/rasalcd041m.jpg?v=1792409793","url":"https:\/\/sainwales.com\/cy\/products\/pyroclastig","provider":"Sain","version":"1.0","type":"link"}