Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Various Artists

Hon

Hon

Pris arferol $11.00 USD
Pris arferol Pris gwerthu $11.00 USD
Sêl Gwerthu allan
Treth wedi'i chynnwys.

SKU:SCD2668

Gwelwyd cyfle gwych i greu casgliad o ganeuon dan y teitl ‘Hon’ gan bod cymaint o ferched yng Nghymru erbyn hyn mor amlwg yn y sîn roc/pop/gwerin Cymraeg. Yn wir, efallai mai cyfraniad y merched yw prif nodwedd canu Cymraeg cyfoes, a braf yw gweld mwy a mwy ohonyn nhw yn cyfansoddi caneuon eu hunain ac yn cael ymateb mor frwd gan y cyhoedd. Yn ogystal â chynnwys deunydd diweddar gan rai fel Georgia Ruth, Lleuwen Steffan a Fflur Dafydd, rydym hefyd wedi cynnwys clasuron gan Siân James, Caryl Parry Jones, Linda Griffiths a Heather Jones, a chyflwyno hefyd gantoresau llai adnabyddus sy’n sicr o wneud eu marc yn y dyfodol. Ychwanegwch at y rhain dalentau disglair Elin Fflur, Calan, Meinir Gwilym, Gwyneth Glyn a Gwenan Gibbard, ac fe welwch fod yma gasgliad at ddant pawb!

 

  1. LLEUWEN STEFFAN - Bore Sadwrn
  2. ELIN FFLUR - Tybed Lle Mae Hi Heno
  3. CALAN - Y Gwydr Glas
  4. CARYL PARRY JONES - Adre
  5. GWYNETH GLYN - Angeline
  6. LOWRI EVANS - Aros am y Trên
  7. GEMMA MARKHAM - Y Caeau Aur
  8. SIÂN JAMES - Y Wasgod
  9. LINDA GRIFFITHS - Gwybod bod 'na 'fory
  10. FFLUR DAFYDD - Rhoces
  11. GEORGIA RUTH - Hallt
  12. MEINIR GWILYM - Haf
  13. GWENAN GIBBARD - Glan Môr Heli
  14. LOIS EIFION - Cain
  15. SARAH LOUISE - Tir Na-Nog
  16. HEATHER JONES - Mae'r Galon Hon
Year
Gweld y manylion llawn